Beth yw manteision ymuno â'n nawfed gynhadledd flynyddol?
22 Gorffennaf
Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i rwydweithio, dysgu ac ymgysylltu ag arbenigwyr a phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant yn ein nawfed gynhadledd flynyddol, a gynhelir ar 10 Hydref 2024 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Dyma naw mantais o ymuno:
1. Prif siaradwyr a phaneli mewnweledol
Cewch glywed gan arbenigwyr a phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant yn ystod ein sesiynau prif siaradwyr a'n paneli, gan gynnwys Eluned Morgan, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a David Price, ymgynghorydd GIG sy'n arbenigo mewn Endocrinoleg.
2. Sesiynau cyfochrog amrywiol
Mynychwch ystod o sesiynau cyfochrog i gael mewnwelediadau gwerthfawr ar draws meysydd gan gynnwys iechyd menywod, heriau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol, effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaethau rhwng sefydliadau addysg uwch, y GIG a llywodraeth leol.
3. Trafodaethau dull TED
Clywch gan ymchwilwyr ac arweinwyr meddwl angerddol ar eu prosiectau ymchwil ysbrydoledig yn y Trafodaethau dull TED.
4. Cyfleoedd rhwydweithio
Cysylltwch â mwy na 400 o weithwyr proffesiynol o'r un anian, o bob cwr o'r wlad, i adeiladu perthnasoedd, rhannu syniadau a chydweithio ar brosiectau yn y dyfodol.
5. Dathlu rhagoriaeth ymchwil Cymru
Dewch i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth benigamp mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol wrth i enillwyr y Gwobrau gael eu cyhoeddi: Gwobr Effaith ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwobr Seren Ymchwil Addawol, Gwobr Cynnwys y Cyhoedd, a Gwobr Arloesi mewn Ymarfer.
6. Arddangosfa a stondinau deniadol
Dewch i ymweld ag arddangoswyr ac ymgysylltwch ag arddangoswyr byrddau iechyd cymunedol a ariennir a GIG a dysgwch fwy am y diweddaraf mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
7. Arddangos y diweddaraf mewn iechyd menywod
Mae rhestr o siaradwyr panel blaenllaw yn rhannu eu gwybodaeth a'u mewnwelediadau ar y datblygiadau diweddaraf ar draws ymchwil iechyd menywod.
8. Sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol
Oes gennych gwestiwn? Gallwch ofyn yn uniongyrchol i'n siaradwyr, ni waeth a ydych yn mynychu ar-lein neu'n bersonol.
9. Ffrydio byw
Ymunwch â ni trwy'n ffrwd byw i wneud yn siŵr nad ydych yn colli allan ar unrhyw ran o gynnwys gwerthfawr y gynhadledd.
Cadwch lygad am fwy o fanylion am sesiynau, siaradwyr ac elfennau cyffrous eraill o'r gynhadledd.