Cadarnhawyd mai’r ymchwilydd blaenllaw o Gymru, Dr David Price, fydd y prif siaradwr yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
22 Awst
Bydd Dr David Price, ymgynghorydd y GIG sy'n arbenigo mewn endocrinoleg, yn siarad yn ein cynhadledd ym mis Hydref eleni i rannu ei daith ymchwil a'i fewnwelediadau.
Cymhwysodd Dr Price o Ysgol Meddygaeth Glinigol Prifysgol Caergrawnt ym 1979. Ar ôl gweithio mewn swyddi hyfforddi yn Glasgow, Leeds a Chaerlŷr, fe'i penodwyd yn ymgynghorydd diabetes ac endocrinoleg yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ym 1992.
Mae ei ddiddordebau ymchwil wedi cynnwys camweithrediad rhywiol mewn diabetes, a chwaraeodd rôl allweddol yn goruchwylio’r treial clinigol ar gyfer Viagra yn ne Cymru ar ddechrau'r 1990au. Yn ddiweddar bu'n gweithio fel ymgynghorydd meddygol ar ddrama ddiweddar y BBC Men Up, a oedd yn adrodd hanes y treial hwnnw, gydag un o'r cymeriadau - Dr Dylan Pearce, a oedd yn cael ei chwarae gan yr actor o Gymru Aneurin Barnard - yn seiliedig ar Dr Price.
Yn fwy diweddar, mae diddordebau Dr Price wedi canolbwyntio ar endocrinoleg glinigol a chlefyd y thyroid yn benodol. Ymddeolodd i raddau helaeth o waith clinigol yn 2023, ond mae'n parhau i ymwneud ag ymchwil.
Dywedodd: "Mae'n anrhydedd cael bod yn brif siaradwr yn y gynhadledd ac edrychaf ymlaen at siarad am fy ymchwil i analluedd, a sut y gall meddyg GIG wella’n sylweddol ei allu i wneud ymchwil drwy gasglu data systematig."
Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle yn y Gynhadledd i ddysgu am ddealltwriaeth David Price, ac arbenigwyr eraill o bynciau fel iechyd menywod, gofal cymdeithasol ac arferion ymchwil cynaliadwy.
Gwnewch gais ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024
Dyddiad cau: 17:00 ar 2 Medi 2024