Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024 - mae cofrestru nawr ar agor
25 Ebrill
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi dyddiad ein nawfed cynhadledd ar 10 Hydref 2024 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Y thema eleni yw Mae Ymchwil yn Bwysig.
Mae'r gynhadledd yn darparu llwyfan i gydweithwyr ymchwil o bob cwr o’r wlad rhwydweithio, dysgu a chyfnewid gwybodaeth am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newid bywyd.
Bydd y diwrnod yn cynnwys:
- Sesiynau sy’n rhedeg yn gyfochrog ar bynciau fel:
- Iechyd menywod
- Gofal cymdeithasol
- Arferion ymchwil cynaliadwy
- Partneriaethau rhwng byrddau iechyd a phrifysgolion
- Trafodaethau dull TED wedi'u dewis o grynodebau a gyflwynwyd
- Cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob cwr o'r wlad
- Gwobrau gyda'r categorïau canlynol:
- Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwobr Seren Esgynnol Ymchwil
- Gwobr Cynnwys y Cyhoedd
- Gwobr Arloesi mewn Ymarfer
- Arddangosfa - gan gynnwys gwobr am y stondin fwyaf deniadol
Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan.
Cofrestrwch nawr ar gyfer eich lle yn y gynhadledd.
Cyflwynwch eich crynodebau ar gyfer trafodaethau dull TED.
Tagiwch ni #YmchwilCymru24 i ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol.