People attending a seminar

Healthcare Heroes: Tomorrow’s World

Ymunwch â'n hacademyddion am ddarlith gyhoeddus arbennig sy’n rhan o Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam yn dilyn ein digwyddiad Arwyr Gofal Iechyd ar thema 'Byd y Dyfodol'. Cewch glywed am yr hyn sydd i ddod ar gyfer addysg gofal iechyd yn ogystal â'r ymchwil arloesol y mae ein hacademyddion yn ei harwain i drawsnewid gofal iechyd.

Cewch ragor o wybodaeth am ein prosiectau parhaus ar y cyd â byrddau iechyd lleol ac Uned Academaidd Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol Maelor. Dysgwch sut mae ein hymchwil a’n buddsoddiadau mewn technoleg drawsnewidiol yn arfogi ein graddedigion i weithio’n ymarferol mewn ystod eang o yrfaoedd gofal iechyd sy’n gwasanaethu’r gymuned leol.

  • Nathan RobertsDr Mobayode Akinsolu - Technoleg drawsnewidiol ar gyfer Byd Yfory (fideo)
  • Dr Chelsea Batty - Calon Glyfar: System Fonitro Amser Go Iawn ar gyfer Cleifion Adsefydlu Cardiaidd
  • Dr Liz Cade - Meithrin gweithlu gofal iechyd gwydn - astudiaeth dull cymysg o fyfyrwyr therapi galwedigaethol yn ymgymryd â lleoliadau lle nad yw’r rolau wedi ennill eu plwyf eto
  • Sara Oxbury-Ellis - Datblygu adnoddau arsylwi ac adrodd yn ôl dan arweiniad myfyrwyr mewn addysg gofal iechyd
  • Athro Stephen Fôn Hughes - MAUMSS-BIPBC (Uned Academaidd Maelor y Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol-Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) - Agwedd arloesol at weithio ar y cyd, datblygiad staff a hyrwyddo dysg gydol oes gweithwyr proffesiynol gofal iechyd

 

Bydd derbyniad diodydd a bwyd yn cychwyn am 4.30 yp cyn y ddarlith am 5yh. Yn ogystal, mae hanner awr ar ôl y ddarlith ar gyfer rhwydweithio.

Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chynnal gan Prifysgol Wrecsam os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.

-

Wrexham University

Am Ddim

Cofestrwch nawr