Logo Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar wisg nyrsys

Amdanom ni

Pwy ydyn ni?

Sefydliad rhwydweithiol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n cynnwys ystod eang o bartneriaid ar draws y GIG yng Nghymru, awdurdodau lleol, prifysgolion, sefydliadau ymchwil, y trydydd sector ac eraill.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos gydag asiantaethau eraill y llywodraeth ac arianwyr ymchwil (yng Nghymru ac hefyd ar draws y DU), partneriaid maes diwydiant; cleifion; defnyddwyr gwasanaeth; rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat.

Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i hyrwyddo ymchwil ar gyfer heintiau, triniaethau, gwasanaethau a chanlyniadau a all arwain at ddarganfyddiadau ac arloesedd a hyd yn oed achub bywydau pobl.

Pobl allweddol

Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Carys Thomas, Pennaeth Polisi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Helen Grindell, Pennaeth y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Felicity Waters, Pennaeth Cyfathrebiadau, Ymgysylltu a Chynnwys, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru