alt

Gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu ymchwil o ansawdd uchel er budd y GIG, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol, ac mae’n darparu dulliau dysgu a chymorth er mwyn i ymchwilwyr allu mynd i’r afael â heriau iechyd a gofal cymhleth y dyfodol.

Yng Nghymru, rydym yn llwyr gydnabod y cysylltiad rhwng gwell gofal ac ymchwil o ansawdd uchel a dyna pam rydym yn annog pob gweithiwr iechyd a gofal proffesiynol i gymryd rhan mewn ymchwil.  Mae nifer o ffyrdd o gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i ddatblygu diddordeb mewn ymchwil drwy arwain ymchwil mewn diddordeb penodol, drwy fod yn un o’r cyd-ymgeiswyr neu’n brif ymchwilydd astudiaeth a thrwy arwain y broses recriwtio a chyflawni ymchwil ledled Cymru.

Mae cymorth a hyfforddiant ar gael er mwyn eich cynorthwyo i ddatblygu eich gyrfa, o fod yn weithiwr iechyd a gofal proffesiynol sy’n cymryd rhan mewn ymchwil i fod yn ymchwilydd academaidd medrus.  Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu ystod o adnoddau a hyfforddiant i gynorthwyo gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol i gyfrannu at y broses o gyflawni ymchwil er mwyn gwella gofal i gleifion a’r cyhoedd ledled Cymru.

Hefyd, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn Arweinwyr Arbenigol i hyrwyddo a chefnogi’r broses o ddatblygu a chyflawni gwaith ymchwil drwy greu rhwydweithiau o brif ymchwilwyr arbenigol a chefnogi’r broses o ddechrau astudio ledled Cymru.  Maent yn cyfateb i 30 o ardaloedd therapiwtig y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd ac yn sicrhau ymgysylltiad cadarn i Gymru ar lefel y DU.

Yn ddiweddar, buddsoddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn yr amgylchedd gofal cymdeithasol, gan gynnwys defnyddio a lledaenu gwybodaeth, meithrin gallu yn y maes ymchwil a’r amgylchedd cartref gofal.