Ar agor nawr - Cynllun Uwch-arweinwyr Ymchwil 2025-2028
22 Hydref
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yr alwad am geisiadau ar gyfer Cynllun Uwch-arweinwyr Ymchwil 2025-2028 yn ar agor nawr.
Mae’r Uwch-arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf blaenllaw ac uchel eu parch yn y wlad. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain a datblygu’r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym yn dibynnu arnynt i ddarparu arweiniad, gweithredu fel llysgenhadon ac eiriolwyr dros ymchwil iechyd a gofal, a chwarae rhan ganolog i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru drwy fentora, a thrwy ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r gymuned ymchwil. Bydd disgwyl i bob Uwch-arweinydd Ymchwil ymgysylltu â gweithgareddau Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’u cefnogi.
I gydnabod y rôl bwysig sydd ganddynt a’u cyfraniad at ddatblygu a chefnogi’r gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Uwch-arweinwyr Ymchwil yn derbyn dyfarniad blynyddol yn ôl disgresiwn o hyd at £15,000 i gefnogi eu gwaith ymchwil (cyfanswm o £45,000 dros gyfnod y dyfarniad 3 blynedd).
Bydd ymrwymiad amser yr Uwch-arweinwyr Ymchwil yn cynnwys eu bod yn cyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys drwy baneli, byrddau neu bwyllgorau ariannu, drwy ymgysylltu ar lefel y DU â chyllidwyr a chyrff eraill, a thrwy gyfrannu at ddatblygu capasiti a gallu ymchwil yng Nghymru drwy amrywiaeth o weithgareddau’r Gyfadran.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd:
- yn dangos arweinyddiaeth ymchwil, rhagoriaeth ac effaith yng Nghymru ac yn y DU/yn rhyngwladol;
- yn gallu ymrwymo 10-15 diwrnod y flwyddyn i’r rôl;
- â phrofiad o ddatblygu ymchwilwyr a datblygu gallu a medrusrwydd ymchwil yng Nghymru. Er enghraifft, drwy ddenu, datblygu a chadw gweithlu ymchwil iechyd galluog iawn, drwy gefnogi cydweithio a datblygu rhaglenni ymchwil newydd;
- yn cyfannu cynnwys cleifion/defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd mewn ymchwil; ac
- wedi ymrwymo i gyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gynnwys y Gyfadran, fel uwch-arweinydd.
Ceisiadau yn agor: Dydd Iau 14 Tachwedd 2024
Yn Cau: 16:00 ddydd Iau 9 Ionawr 2025.
Mae mwy o wybodaeth ar dudalen we y cynlluniau ariannu.