Astudiaeth newydd ar gyfer genedigaeth mewn dŵr yn ennill rhagoriaeth mewn gwobr ymchwil bydwreigiaeth
22 Hydref
Mae astudiaeth arloesol ar ddiogelwch genedigaethau mewn dŵr, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dan arweiniad ein Harweinydd Arbenigol ar gyfer Iechyd Atgenhedlol, yr Athro Julia Sanders, wedi ennill y Rhagoriaeth mewn Bydwreigiaeth am Ymchwil gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd.
Yr Astudiaeth POOL, dan arweiniad Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Treialon Ymchwil, yw'r ymchwiliad byd-eang mwyaf o'i fath, gan archwilio genedigaethau mewn dŵr ar draws 73,229 o enedigaethau o 26 o safleoedd y GIG rhwng Ionawr 2015 a Mehefin 2022. Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar fenywod heb gymhlethdodau beichiogrwydd a ddefnyddiodd drochi dŵr yn ystod y cyfnod esgor.
Ni chanfuwyd unrhyw risg uwch gan y prif bapur astudio, a gyhoeddwyd yn y "British Journal of Obstetrics and Gynaecology" o anaf sffincter rhefrol obstetrig neu afiachusrwydd newyddenedigol difrifol ymhlith genedigaethau mewn dŵr nag oedd mewn genedigaethau allan o'r dŵr.
Dywedodd yr Athro Sanders, a arweiniodd y tîm ymchwil: "O ganlyniad i'r astudiaeth, gall bydwragedd nawr ateb yn gwbl hyderus bod genedigaeth mewn dŵr yn opsiwn diogel i fenywod a'u babanod.
"Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal eisoes wedi nodi y bydd canlyniadau'r astudiaeth yn llywio argymhellion ar enedigaethau dŵr yn y dyfodol."
Mae'r tîm wedi gweithio gyda'i bartneriaid Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd a'i gydweithwyr amlddisgyblaethol i ddatblygu adnoddau ar-lein am ddim i rannu'r canfyddiadau â bydwragedd a rhieni beichiog.
Canmolodd beirniaid y wobr yr astudiaeth am ei thystiolaeth bendant ar ddiogelwch genedigaethau mewn dŵr a'i photensial i gael effaith sylweddol ar ofal mamolaeth i fydwragedd a menywod.
Darllenwch am brofiad Heledd Williams o enedigaeth mewn dŵr.
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.