Heledd Williams a'i babi

Astudiaeth newydd POOL yn cadarnhau bod genedigaethau mewn dŵr yn ddiogel i fenywod sy’n cael beichiogrwydd heb gymhlethdodau

19 Mehefin

Mae menywod sydd â phrofiad o eni mewn dŵr yng Nghymru wedi canmol ymchwil newydd sy’n cadarnhau, ymhlith menywod sy’n cael beichiogrwydd a chyfnod esgor heb gymhlethdodau ac sy’n mynd i’r dŵr yn ystod y cyfnod esgor, nad yw rhoi genedigaeth mewn dŵr yn cynyddu’r risgiau i’r mamau na’u babanod.

Tra bod rhai mamau yn defnyddio dŵr i leddfu poen, roedd rhai meddygon wedi mynegi pryder y gallai babanod fynd yn ddifrifol wael ar ôl cael eu geni mewn dŵr, ac y gall mamau fod yn fwy tebygol o gael rhwygiadau difrifol neu golli llawer o waed.

Aeth astudiaeth POOL, a arweiniwyd gan Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, ati i astudio cofnodion GIG 87,040 o fenywod a ddefnyddiodd bwll yn ystod y cyfnod esgor rhwng 2015 a 2022, ar draws 26 o sefydliadau’r GIG yng Nghymru a Lloegr. Edrychodd yr ymchwilwyr ar gyfraddau rhwygiadau difrifol yr oedd menywod yn eu profi, cyfraddau babanod yr oedd angen gwrthfiotigau arnynt neu help gyda’u hanadlu ar uned ôl-enedigol, yn ogystal â chyfraddau marwolaethau ymhlith babanod newydd-anedig.

Cafodd yr astudiaeth – a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), gyda chyfraniadau penodol gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy’r rhaglen Asesu Technoleg Iechyd (HTA) – ei chynllunio i ddarganfod a yw rhoi genedigaeth mewn dŵr mor ddiogel â gadael y dŵr cyn geni i famau a’u babanod. Yng Nghymru, cynhaliwyd yr astudiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sef yr unig fwrdd iechyd i ddefnyddio EuroKing, y system gwybodaeth am famolaeth sydd wedi’i phartneru â diwydiant, sy’n cadw’r holl gofnodion a’r data mamolaeth yn y Bwrdd Iechyd.

Dewisodd Heledd Williams, 32 oed, o Gaerdydd, gael genedigaeth mewn dŵr yn yr Uned dan Arweiniad Bydwragedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru chwe mis yn ôl oherwydd ei gorbryder ynghylch rhoi genedigaeth.

Dywedodd: “Mae’n swnio’n wirion ond rhoi genedigaeth oedd y rhan roeddwn i’n ei hofni – roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau plant, ond dydw i ddim yn dda gyda gwaed a stwff meddygol!

“Ro’n i wedi darllen llyfr am enedigaethau mewn dŵr ac roedd gen i ddiddordeb yn hynny – rwy’n mwynhau bod yn y dŵr, felly ro’n i’n meddwl y byddwn i’n ymchwilio iddo ymhellach ac fe ges i sgwrs gyda fy mydwraig am y manteision a’r anfanteision, a awgrymodd fod llawer mwy o fanteision nag anfanteision yn gysylltiedig â geni mewn dŵr.  

“Fe wnaeth fy ngŵr sôn am y ffordd y gwnaeth fy wyneb newid cyn gynted ag y gwnes i fynd i mewn i’r dŵr – roedd e’n rhyddhad llwyr, ac roedd e’n teimlo mor naturiol â phosibl. Roedd yn opsiwn ymarferol iawn o ran fy helpu i reoli’r boen – fe wnaeth i mi deimlo wedi ymlacio. 

“Rwy’n credu bod yr ymchwil i hyn yn bwysig iawn ac mae’n dda gwybod bod ymchwil yn cael ei gwneud yn y maes hwn.” 

Ychwanegodd yr Athro Julia Sanders, Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Iechyd Atgenhedlol ac Athro Bydwreigiaeth Glinigol, a arweiniodd y tîm ymchwil: “Yn y DU, mae tua 60,000 o fenywod yn defnyddio pwll neu fath geni bob blwyddyn i leddfu poen yn ystod y cyfnod esgor, ond roedd rhai bydwragedd a meddygon yn pryderu y gallai fod risgiau ychwanegol yn gysylltiedig â geni mewn dŵr. Yn ôl adroddiadau, gallai babanod fynd yn ddifrifol wael ar ôl cael eu geni mewn dŵr, ac roedd mamau yn fwy tebygol o gael rhwygiadau difrifol neu golli llawer o waed.  Felly, roedd angen astudiaeth ymchwil fawr i edrych ar ddiogelwch genedigaethau mewn dŵr yn y DU.

“Prif nod ein hastudiaeth oedd ateb cwestiwn a ofynnir yn aml gan fenywod sy’n defnyddio pyllau neu faddonau geni yn ystod y cyfnod esgor – mae mamau yn aml yn gofyn i fydwragedd a ddylen nhw aros yn y dŵr neu adael y dŵr i roi genedigaeth os bydd y cyfnod esgor yn parhau heb unrhyw gymhlethdodau.

“Ymhlith y menywod a astudiwyd gennym, fe wnaeth rhai adael y pwll i gael gofal meddygol ychwanegol neu fwy o gymorth i leddfu’r boen.  Roedd y rhan fwyaf o’r menywod a aeth allan o’r pwll i gael gofal meddygol ychwanegol yn famau am y tro cyntaf – gadawodd 1 o bob 3 o famau am y tro cyntaf y pwll i gael gofal meddygol ychwanegol, o gymharu ag 1 o bob 20 o’r menywod a oedd wedi rhoi genedigaeth yn flaenorol.”

‘Goblygiadau i filoedd o fenywod bob blwyddyn yn y DU’

Yn gyffredinol, canfu’r ymchwilwyr fod tua hanner yr holl fenywod a oedd wedi defnyddio pwll yn ystod y cyfnod esgor wedi cael genedigaeth mewn dŵr.

O ystyried bod 10% o fenywod yn defnyddio dŵr i leddfu poen yn ystod y cyfnod esgor, bydd gan ganlyniadau’r astudiaeth hon oblygiadau i filoedd o fenywod bob blwyddyn yn y DU a llawer mwy ledled y byd, lle mae’n gyffredin i fynd i’r dŵr yn ystod y cyfnod esgor.

Ychwanegodd Rachel Plachcinski, cynrychiolydd rhieni ar dîm yr astudiaeth a chyn-athrawes cynenedigol: “Mae hefyd yn rhoi sicrwydd bod bydwragedd yn nodi problemau posibl yn ystod y cyfnod esgor ac yn cynghori’r menywod hynny i adael y pwll, fel bod mamau a’u babanod yn gallu cael eu monitro’n briodol a chael y gofal priodol.”

Cafodd yr ymchwil, ‘Maternal and neonatal outcomes among spontaneous vaginal births occurring in or out of water following intrapartum water immersion: The POOL cohort study’, ei chyhoeddi yn BJOG, cyfnodolyn ymchwil academaidd swyddogol Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynaecolegwyr. Ewch i wefan Prifysgol Caerdydd i ddysgu mwy am yr astudiaeth.

Cofrestrwch ar gyfer eich cylchlythyr wythnosol i gael y newyddion diweddaraf am ymchwil, cyfleoedd ariannu a gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Cofrestrwch ar gyfer Be Part of Research i ddysgu am yr amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol neu i helpu gydag ymchwil o’r fath yn eich ardal.