Yr Athro Julia Sanders

Yr Athro Julia Sanders

Arweinydd Arbenigol ar Iechyd Atgenhedlu

Mae’r Athro Julia Sanders wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa mewn cyfuniad o swyddi clinigol, addysgu ac ymchwil. Hyfforddodd fel nyrs a bydwraig yng Nghaerdydd yn yr 1980au. Derbyniodd Gymrodoriaeth Hyfforddiant mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd oddi wrth y Cyngor Ymchwil Feddygol a chefnogodd hyn hi i ddilyn gradd MPH a PhD ym Mhrifysgol Bryste (1998-2004).

Ar ôl cwblhau ei PhD yn 2005, dychwelodd i waith clinigol amser llawn fel Bydwraig Ymgynghorol a hi oedd y clinigydd arweiniol i’r unedau dan arweiniad bydwragedd a oedd newydd eu hagor yng Nghaerdydd. Roedd yn y swydd hon tan 2017, ond o 2008 roedd hefyd yn gweithio fel Uwch Gymrawd Ymchwil Glinigol yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd.

Mae gan Julia brofiad o gynllunio a chyflenwi astudiaethau mawr a chymhleth yn llwyddiannus, gan gynnwys hap-dreialon, ym meysydd iechyd mamau ac ymyriadau’r blynyddoedd cynnar. Mae hi wedi bod yn arweinydd, neu’n gyd-ymchwilydd ar brosiectau â grantiau gwerth dros £15 miliwn sydd wedi’u cwblhau a rhai sydd ar y gweill, ac mae hi’n aelod annibynnol o Bwyllgor Llywio Treial sawl hap-dreial y mae’r NIHR yn eu hariannu. Mae ei phrif arbenigedd methodolegol ym maes hap-dreialon a’r defnydd o ddata GIG a gesglir fel mater o drefn a data eraill i ateb cwestiynau ymchwil.

Swydd bresennol Julia yw Athro Bydwreigiaeth Glinigol, sef swydd a rennir rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gyda chylch gwaith penodol i gefnogi, datblygu ac arwain astudiaethau nyrsio ac astudiaethau dan arweiniad bydwragedd.


Yn y newyddion:         

Lleihau gwaedu difrifol ar ôl rhoi genedigaeth yng Nghymru o ganlyniad i ymchwil sy'n achub bywydau (Mai 2022)   

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Mae mam o Gaerdydd yn gobeithio y gall ymchwil efeilliaid atal eraill rhag teimlo'n ynysig (Ebrill 2022)

“Mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb o hyd”- sut mae bydwragedd ymchwil yn paratoi'r ffordd ar gyfer arfer gorau (Mai 2021)

Yr ymchwil i ganfod pa mor ddiogel yw brechiadau COFID-19 I ferched beichiog (Tachwedd 2021)

Sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Phrifysgol Caerdydd

Cysylltwch â Julia

E-bost