Ydych chi wedi helpu plentyn neu berson ifanc sy’n profi teimladau neu ysfa hunanladdol?

Helpwch ymchwilwyr i ddeall sut y gall teuluoedd a gofalwyr gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi teimladau hunanladdol neu sy'n ceisio hunan-niweidio.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

  • profiad o gefnogi plentyn neu berson ifanc sydd wedi ceisio cymorth ar gyfer ymddygiad hunan-niweidio neu hunanladdol
  • profiad o ôl-ofal / cynllun diogelwch yn dilyn digwyddiad o'r fath
  • ar gael ar 5 Rhagfyr

Mwy o wybodaeth

Mae ymchwilwyr eisiau deall sut mae rhieni a gofalwyr yn helpu pan fydd eu plentyn neu berson ifanc (hyd at 18 oed) wedi hunan-niweidio neu ddangos ymddygiad hunanladdol mewn mannau fel yr ystafell argyfwng, ward ysbyty i blant, neu wasanaethau iechyd meddwl. Maen nhw eisiau sicrhau bod eu hymchwil yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i ofalwyr.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Cewch wahoddiad i gyfarfod i drafod y prosiect a chael eich barn ar y canlynol:

  • Pwyslais yr astudiaeth
  • Pa mor bwysig yw hi i chi fod yn rhan o'r broses cynllunio diogelwch
  • Pa faterion eraill y dylen nhw fod yn meddwl amdanynt
  • Dealltwriaeth o "gynllunio diogelwch" a therminoleg arall i'w ddisgrifio

Os caiff yr astudiaeth ei hariannu, yna efallai y gofynnir i chi ymuno â'r grŵp cynghori.

Pa mor hir fydd fy angen?

1.5 awr ar 5 Rhagfyr

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Buddion i chi :

  • Helpu i lunio ymchwil ar bwnc allweddol
  • Rhoi cefnogaeth i eraill sydd wedi wynebu sefyllfaoedd tebyg

Bydd ein tîm yn: 

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Person cyswllt dynodedig sy'n nyrs iechyd meddwl sydd â phrofiad yn y maes hwn.

Sut ydw i'n ymgeisio?

Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol. 

Ddim yn siŵr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?

Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.

Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Beth fydd yn digwydd nesaf.

Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.

Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.

Categori cyfle:
gwyrdd

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd

Submit Expression of Interest