Nyrs ymchwil yn cael ei chydnabod am waith ymchwil arloesol ym maes gofal critigol
4 Tachwedd
Cafodd Jade Cole, Arweinydd Ymchwil a Datblygu Gofal Critigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ei henwi’n enillydd yr ail wobr yng nghategori Gwobr Nyrs Gofrestredig - Oedolion yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).
Mae’r wobr hon yn cydnabod cyfraniad Jade i ofal cleifion a’i rôl arloesol ym maes ymchwil gofal critigol, yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Gyda thros 20 mlynedd ym maes nyrsio gofal critigol, mae Jade wedi datblygu ymarfer ymchwil ar draws ei bwrdd iechyd yn sylweddol. Mae’n esiampl wych o ddatganiad gweledigaeth ei thîm - “Mae ymchwil yn bwysig; mae cleifion yn bwysig”.
Dywedodd Jade: “Mae nyrsio ymchwil yn rôl mor hanfodol sy’n cael cymaint o effaith ac rwy’n falch ei fod yn cael ei gydnabod. Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud nid yn unig yn effeithio ar y claf o’n blaenau ni, mae ganddo’r potensial hefyd i helpu nifer di-rif o gleifion ym mhob cwr o’r byd drwy dreialon byd-eang.”
Yn ystod pandemig COVID-19, Jade oedd yr unig aelod o’i thîm a oedd yn cael mynd i mewn i’r uned gofal dwys i gynnal treialon ymchwil. Fe gyfrannodd y gwaith roedd hi’n ei wneud tuag at nodi manteision goroesi triniaethau penodol ar gyfer cleifion COVID-19, gan effeithio’n uniongyrchol ar ganlyniadau cleifion ar adeg allweddol.
Mae Jade wedi hwyluso gwaith ymchwil arloesol sydd wedi arwain at driniaethau sy’n achub bywydau. Mae ei gwaith ar drin ataliad ar y galon y tu allan i ysbyty wedi cael sylw mewn adroddiad gan y BBC ac wedi’i gyhoeddi yn rhai o’r prif gyfnodolion meddygol, gan gynnwys the New England Journal of Medicine.
Ychwanegodd: “Mae ymchwil yn sicrhau ein bod ni’n rhoi’r triniaethau gorau posibl a all achub bywydau a gwella canlyniadau. Mae’n ymwneud â rhoi’r siawns orau o oroesi i gleifion a sicrhau eu bod yn mynd adref, yr un mor iach ag yr oedden nhw’n gynt neu’n fwy iach na hynny.
“Bob dydd, rydyn ni’n gweithio i sicrhau mai’r triniaethau rydym yn eu cynnig yw’r rhai cyflymaf a mwyaf effeithiol a bod y rhai mewn angen dybryd yn cael y gofal maen nhw’n eu haeddu.”
Dywedodd Dr Richard Hellyar, Uwch-ddarlithydd mewn Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd, a enwebodd Jade ar gyfer y wobr: “Mae Jade yn nyrs ysbrydoledig sydd ar flaen y gad o ran gwaith ymchwil arloesol ym maes gofal critigol. Mae hi wedi ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, ac roedd ei gwaith yn cael ei ystyried yn hanfodol. Eto, mae hi’n dal i fod yn ostyngedig, yn garedig, yn ofalgar ac yn broffesiynol. Mae hi wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o nyrsys, gyda myfyrwyr yn dweud, ‘Rwyf eisiau bod yn nyrs ymchwil o’i herwydd hi.’ Mae hi wir yn haeddu’r wobr hon.”
Mae Jade yn falch iawn o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys nyrsys a meddygon, i ddilyn gyrfaoedd ym maes ymchwil. Mae ei chyflawniad yn cefnogi amcanion prosiect BLAENORIAETH, sy’n anelu at gynyddu’r capasiti a’r gallu i wneud a defnyddio ymchwil ymhlith nyrsys, bydwragedd a’r 13 o broffesiynau perthynol i iechyd.
Ychwanegodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflawni Ymchwil ar gyfer Nyrsys, Bydwragedd a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, a chyd-arweinydd ar brosiect BLAENORIAETH: “Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dyst i’r cyfraniad eithriadol y mae Jade wedi’i wneud i ofal cleifion a’i gwaith arloesol ym maes ymchwil gofal critigol. Mae ei hymroddiad i nyrsio ymchwil ac iechyd a lles cleifion yn adlewyrchu gwir hanfod ein proffesiwn.”
Mae prosiect BLAENORIAETH yn dechrau ar ei gyfnod olaf nawr gyda gweithdai Rheithgor Dinasyddion yn y flwyddyn newydd. Rydym yn gwahodd nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru i fyfyrio ar ganfyddiadau ac argymell camau gweithredu ar gyfer y cynllun.
Mae Gwobrau Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru yn dathlu cyflawniadau eithriadol y gymuned nyrsio a’i dylanwad cadarnhaol ar arferion gorau ym maes nyrsio, sy’n gwella’r gofal a roddir i unigolion a chymunedau yng Nghymru.
Dysgwch fwy am y Gwobrau.