Ydych chi'n byw yng Nghymru ac â diabetes Math 2?
Helpwch Iechyd Cyhoeddus Cymru i adolygu astudiaeth a helpu i wella bywydau pobl sydd â diabetes Math 2 yng Nghymru drwy roi adborth ar eich profiad bywyd.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Bydd angen i chi fod â:
- profiad personol o fyw gyda diabetes Math 2
- gallu i adolygu dogfennau a rhoi adborth o safbwynt claf
- dealltwriaeth o heriau rheoli diabetes Math 2 ac ymgysylltu â gwasanaethau iechyd
Mwy o wybodaeth
Hoffai ymchwilwyr eich helpu i adolygu gwybodaeth astudiaeth a fydd yn helpu pobl i reoli eu Diabetes Math 2. Mae hon yn dasg untro a gellir ei chwblhau trwy e-bost. Efallai y cewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd grŵp llywio am 3-4 mis.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Gofynnir i chi adolygu dogfennau'r astudiaeth a rhoi adborth ar ba mor glir ydynt i’w deall o safbwynt rhywun sy'n byw â diabetes Math 2.
Pa mor hir fydd fy angen?
Ar gyfer yr adolygiad cychwynnol o'r ddogfen, tua 1 awr. Efallai y bydd cyfle i gymryd rhan yn y dyfodol mewn cyfarfodydd grŵp llywio am 3-4 mis.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Buddion i chi :
- Bydd eich adborth yn sicrhau bod yr astudiaeth yn adlewyrchu safbwynt y cyhoedd.
- Cyfle i gyfrannu at ymchwil sydd â'r nod o wella rheolaeth diabetes Math 2.
Bydd ein tîm yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Edrychwch ar ein canllawiau gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd cyswllt dynodedig ar gael i ddarparu cefnogaeth drwy gydol eich cyfraniad.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ddim yn siŵr sut i lenwi 'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
gwyrdd
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Iechyd Cyhoeddus Cymru