Helpu i lunio ymchwil am drosglwyddiadau o unedau bydwreigiaeth gartref neu annibynnol
Ydych chi neu'ch partner wedi cael eich trosglwyddo o uned fydwreigiaeth annibynnol (canolfan geni) neu enedigaeth gartref naill ai yn ystod y cyfnod esgor neu'n fuan ar ôl yr enedigaeth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf?
NEU
Wnaethoch chi neu'ch partner roi genedigaeth gartref neu mewn uned fydwreigiaeth annibynnol a doedd dim angen i chi gael eich trosglwyddo?
Os mai do yw’r ateb i’r naill gwestiwn neu’r llall, byddem yn croesawu eich sylwadau a'ch adborth.
Bydd eich barn yn cael ei chasglu trwy arolwg dienw, a bydd y canlyniadau'n cael eu dadansoddi er mwyn helpu i lunio ymchwil yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'r ymchwil yn cael ei chynllunio ac mae'n bwysig bod yr ymchwil yn berthnasol i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.
Dilynwch y ddolen hon i ateb yr arolwg os cawsoch chi eich trosglwyddo:
https://forms.office.com/e/9uDTu7k76q
Dilynwch y ddolen hon i ateb yr arolwg os gwnaethoch chi roi genedigaeth gartref neu mewn uned fydwreigiaeth annibynnol a doedd dim angen i chi gael eich trosglwyddo:
https://forms.office.com/e/KyFekNvdR0
Sut alla i ateb yr arolwg mewn iaith arall?
Os hoffech chi ateb yr arolwg mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Agorwch Google Translate yn eich porwr.
Cliciwch ar 'websites'
Teipiwch ddolen yr arolwg:
Os cawsoch chi eich trosglwyddo –https://forms.office.com/e/3z3ERrG3TP
Os na chawsoch chi eich trosglwyddo – https://forms.office.com/e/7UR10mCVYd
Defnyddiwch y gwymplen i ddewis eich iaith
Cliciwch ar y saeth las i gyfieithu
Gyda phwy alla i siarad i gael cefnogaeth?
Os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n elwa o'r cyfle i siarad am eich profiad o roi genedigaeth, cysylltwch â'ch gwasanaeth mamolaeth lleol. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt yr opsiwn i drefnu myfyrdodau neu ôl-feddyliau ar yr enedigaeth.
Mae rhywfaint o wybodaeth a chefnogaeth ar gael hefyd drwy'r Gymdeithas Trawma Geni:
Os ydych chi'n teimlo yr hoffech chi godi pryder am y gofal a gawsoch, yna cysylltwch â'ch Ymddiriedolaeth GIG leol neu’ch Bwrdd Iechyd a byddwch yn dod o hyd i fanylion ar gyfer ‘Gweithio i Wella’.
Mae rhywfaint o arweiniad ar gael hefyd drwy wefan ‘Birthrights’:
Making a complaint - Birthrights
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r arolwg gau?
Bydd yr ymatebion i'r arolygon yn cael eu casglu ynghyd a'u hadolygu ynghyd â gwybodaeth a gasglwyd gan grwpiau ar-lein neu wyneb yn wyneb er mwyn helpu i lunio’r cwestiwn ymchwil a chynllun yr astudiaeth. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gefnogi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.
Os bydd yr ymchwil yn datblygu a bod cyllid yn cael ei sicrhau, efallai y bydd cyfle i gymryd rhan mewn grŵp cynghori ymchwil a rhoi safbwynt defnyddiwr gwasanaeth yn ystod yr astudiaeth. Os hoffech chi gymryd rhan mewn unrhyw arolygon neu sesiynau grŵp yn y dyfodol i drafod yr ymchwil hon, gallwch chi roi eich manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg.
Gyda phwy alla i siarad i gael mwy o wybodaeth?
Cysylltwch â'r Tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys yn: Research-involvement@wales.nhs.uk yn y lle cyntaf a byddant yn trosglwyddo'ch gwybodaeth i'r tîm ymchwil.
Nodyn ar iaith:
Bydd y gair menyw/menywod yn cael ei ddefnyddio drwy gydol yr arolwg gan fod y term hwn yn nodi'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaethau mamolaeth yn y DU. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd rhai pobl sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yn uniaethu â'r term hwn o bosibl.
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys