Ydych chi neu anwylyn wedi cael llawdriniaeth ar gyfer canser y croen?
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Bydd angen:
- profiad personol o lawdriniaeth canser y croen, fel claf, gofalwr neu berthynas
- rhannu profiadau gyda'r tîm
- sgiliau cyfathrebu cryf
- dealltwriaeth o’r heriau sy'n wynebu pobl sy'n cael triniaeth ar gyfer canser y croen.
Mwy o wybodaeth
Canser y croen yw'r math mwyaf cyffredin o ganser. Bob blwyddyn yn y DU, mae tua 200,000 o bobl yn cael canser ar y croen wedi ei dynnu oddi yno drwy lawdriniaeth.
Mae rhai mathau o ganser y croen yn torri trwy'r croen sy'n gallu arwain at haint. Mae meddygon yn rhagnodi gwrthfiotigau ar adeg y llawdriniaeth i atal heintiau tua 50% o'r amser.
Fodd bynnag, gall defnyddio mwy o wrthfiotigau nag sydd ei angen arwain at sgîl-effeithiau diangen i gleifion a all achosi i’r bacteria sy'n achosi'r haint allu gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Bydd yr astudiaeth hon yn ystyried a yw rhoi gwrthfiotigau i gleifion ar ôl llawdriniaeth yn fuddiol.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Gofynnir i chi fynychu cyfarfodydd, adolygu a darparu adborth ar ddogfennau sy'n ymwneud â'r astudiaeth.
Byddwch hefyd yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' drwy gynnig gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar y claf i'r tîm ymchwil.
Pa mor hir fydd fy angen?
Byddwch yn cymryd rhan am oddeutu tair blynedd. Bydd angen i chi fynychu cyfarfod 90 munud bob chwe mis.
Cyn pob cyfarfod, bydd angen i chi adolygu dogfennau am awr neu ddwy.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Buddion i chi :
- Bod yn rhan o brosiect ymchwil sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ganlyniadau gofal iechyd a phrofiadau cleifion
- Ennill profiad o gyfrannu at ymchwil glinigol a dylanwadu ar ddylunio a chyflwyno astudiaethau.
Bydd ein tîm yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Darperir hyfforddiant yn ôl yr angen, a bydd person cyswllt dynodedig ar gael i roi arweiniad a chymorth.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut rydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ddim yn siŵr sut i lenwi 'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Y Ganolfan Ymchwil Treialon