Cynllun Ariannu Integredig - Galwad canolbwyntio
Mae’r alwad hon â ffocws yn gwahodd cynigion ymchwil sy’n canolbwyntio ar agweddau ar y pwnc “Cyfathrebu ynghylch iechyd menywod”.
Dylai cynigion fynd i’r afael ag un neu fwy o’r pynciau ymchwil â blaenoriaeth a restrir isod.
- Sut y gellir cefnogi poblogaethau o fenywod a merched sy’n cael eu tangynrychioli a/neu sy’n wynebu rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol neu iaith i gael mynediad at wybodaeth am iechyd?
- Sut y gellir sefydlu arferion da o ran siarad â menywod a merched am faterion sy’n ymwneud â’r menopos, y perimenopos ac iechyd mislif, a chodi ymwybyddiaeth ohonynt?
- Beth yw’r ffyrdd gorau o sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol yn cael yr adnoddau a’r hyfforddiant priodol i gyfathrebu’n effeithiol â menywod a merched am faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd?
- Beth yw’r ffordd orau o gyfathrebu â menywod a merched ag anableddau dysgu a/neu sy’n niwrowahanol am faterion sy’n ymwneud â’u hiechyd a gofal iechyd?
- Sut y gellir annog a hwyluso trafodaethau am faterion iechyd sy’n effeithio ar fenywod a merched o fewn gofal iechyd, ysgolion a’r gymdeithas ehangach?
- Beth yw’r ffyrdd gorau o helpu menywod a merched i deimlo bod pobl yn gwrando arnynt, eu bod yn cael eu deall a’u bod yn cael eu cymryd o ddifrif mewn ymgyngoriadau gofal iechyd?
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y dylid ystyried bod pob un o’r chwe blaenoriaeth yn ymwneud â phob agwedd ar iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl menywod.
Cafodd y blaenoriaethau hyn eu nodi yn ystod ymarfer blaenoriaethu ymchwil a gynhaliwyd rhwng mis Awst 2024 a mis Mawrth 2025.
Mae cyllideb o tua £750k ar gael ar gyfer yr alwad hon, ac mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl ariannu rhwng 3 a 6 phrosiect, yn dibynnu ar gost ac ansawdd y cynigion a dderbynnir.
Dylai prosiectau bara am uchafswm o 24 mis, er bod prosiectau byrrach yn cael eu hannog hefyd. Mae ansawdd ac effaith bosibl yr ymchwil yn bwysicach na’r amser mae’n ei gymryd.
Galwad â ffocws: Briff ymchwil cyfathrebu ynghylch iechyd menywod
Cynllun Ariannu Integredig – Amserlen Galwad 4
Lansiad Cam 1: 9 Ebrill 2025
Cam 1 yn cau: 28 Mai 2025
Lansiad Cam 2: 6 Awst 2025
Cam 2 yn cau: 1 Hydref 2025
Argymhellion y Bwrdd Ariannu: Rhagfyr 2025
Dechrau’r prosiectau a ariennir 1 Ebrill 2026
Caiff y cynllun ariannu ei asesu drwy broses ymgeisio dau gam.
Bydd gan yr alwad â ffocws un pwynt ymgeisio y flwyddyn, a fydd yn lansio yn y gwanwyn. Bydd gan gangen dan arweiniad ymchwilydd, fel rhan o’r Cynllun Ariannu Integredig, un pwynt ymgeisio y flwyddyn, a fydd yn lansio ym mis Medi.
Gwnewch gais nawr gan ddefnyddio’r System Rheoli Ymchwil
Cylch gwaith y Cynllun Ariannu Integredig a chymhwystra ar ei gyfer -Galwad â ffocws
Pwrpas a chylch gwaith
Bydd yr alwad â ffocws yn helpu ymchwil i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau ymchwil a amlinellir yn y briff ymchwil. Rhaid i bob ymgeisydd ddangos sut mae’r ymchwil arfaethedig yn cyd-fynd â’r gofynion y tynnir sylw atynt yn y briff ymchwil. Fodd bynnag, cynghorir y gall galwadau unigol â ffocws nodi gofynion penodol - cyfeiriwch at y briff ymchwil ar gyfer yr alwad i sicrhau nad oes unrhyw eithriadau yn berthnasol.
Cylch gwaith cyffredinol y Cynllun Ariannu Integredig
Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a’r rhai nad ydynt wedi arwain ymchwil o’r blaen ond sy’n edrych i adeiladu portffolios ymchwil a chael profiad o arwain ymchwil.
O fewn paramedrau cyffredinol yr alwad, croesewir ceisiadau o wahanol hyd, maint a chost. Dylai ymgeiswyr gofio bod ceisiadau yn aml yn methu ar y cam asesu am eu bod yn cael eu hystyried yn rhy uchelgeisiol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried perthnasedd ac effaith eu gwaith ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig. Dylai’r rhai sy’n datblygu treialon fod yn ymwybodol o Fframwaith Ethnigrwydd INCLUDE – Trial Forge, a’i ystyried, er mwyn helpu i wella’r ffordd y caiff treialon eu cynnal ar gyfer grwpiau a danwasanaethir.
Caiff ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, ac yn enwedig sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau, ei annog yn gryf drwy gydol y broses ymchwil er mwyn sicrhau’r potensial mwyaf o ran cyfnewid gwybodaeth ac effaith.
Dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd partneriaid ymchwil cyhoeddus yn cymryd rhan yn ystod y prosiect. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl cyfranogiad priodol sydd wedi’i ddylunio’n dda gan bartneriaid ymchwil cyhoeddus yn yr ymchwil y mae’n ei gefnogi, felly cyfeiriwch at Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd mewn Ymchwil. Mae’n hanfodol dangos ar y ffurflen gais gynlluniau ar gyfer cynnwys partneriaid ymchwil cyhoeddus ar bob cam priodol o gylch bywyd y prosiect ymchwil.
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd lunio cynllun lledaenu sy’n dangos yn glir sut y bydd negeseuon allweddol yr ymchwil yn cael eu cyfleu’n effeithiol i gynulleidfaoedd perthnasol, gan gynnwys llunwyr polisi, darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac ymchwilwyr.
Dylai ymgeiswyr ystyried yr amrywiaeth lawn o gynulleidfaoedd posibl a disgrifio sut y gallai canfyddiadau’r ymchwil gael eu lledaenu yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwersi o’r ymchwil hon yn effeithio ar bolisi ac ymarfer.
Cymhwystra ar gyfer y cynllun
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol fod wedi’u lleoli mewn sefydliad yng Nghymru ar adeg gwneud cais (neu fod yn derbyn cynnig swydd sy’n golygu y byddant wedi’u lleoli yn y sefydliad cynnal cyn i’r prosiect ddechrau).
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol feddu ar PhD, MD y DU neu ddoethuriaeth broffesiynol arall yn seiliedig ar ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd neu ofal (derbynnir ceisiadau gan y rhai sydd wedi cyflwyno eu traethawd ymchwil PhD, neu gyfwerth, i’w sefydliad asesu yn ddiweddar, cyn belled â bod y ddoethuriaeth yn cael ei dyfarnu cyn i’r grant ddechrau) NEU fod â hanes cyfatebol o ymchwil ar adeg gwneud cais.
- Rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan y sefydliad cynnal.
- Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa (a ddiffinnir yma fel unigolion nad oes ganddynt fwy na 60 mis o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol, heb gynnwys, er enghraifft, seibiannau gyrfa, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a salwch), a’r rhai sydd eisiau bod yn ymchwilwyr arweiniol am y tro cyntaf.
- Rhaid i geisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa gael cefnogaeth Prif Gyd-ymgeisydd gan uwch-ymchwilydd. Fel arall, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. (Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa y mae eu ceisiadau yn llwyddiannus elwa ymhellach o aelodaeth Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.)
- Os yw’r ymgeisydd arweiniol yn ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa, rydym yn disgwyl i’r Prif Gyd-ymgeisydd ddod o’r un sefydliad oni bai bod sail resymegol gref, sy’n gysylltiedig ag arbenigedd academaidd a datblygiad yr ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa, pam nad yw hyn yn wir.
- Anogir ceisiadau ar gyfer prosiectau o wahanol hyd a gwahanol gost, ar yr amod bod achos cryf yn cael ei wneud dros werth ac ansawdd y gwaith. Y cyfnod mwyaf y gellir gwneud cais am arian ar ei gyfer yw 24 mis.
Yr arian sydd ar gael
- Mae cyllideb o tua £750k ar gael ar gyfer yr alwad â ffocws.
- Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl ariannu tua thri i chwe phrosiect, yn dibynnu ar gost ac ansawdd y cynigion a dderbynnir.
O fewn y gronfa ariannu gyffredinol, nid oes cyfyngiad ar feintiau uchaf nac isaf y dyfarniadau, er y dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o gyfanswm yr arian sydd ar gael a disgwyliadau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ynghylch nifer y prosiectau y mae’n debygol o’u hariannu.
Meini prawf asesu Cam 1
Bydd angen i bob ymgeisydd ddisgrifio sut mae’r ymchwil arfaethedig yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau ymchwil a amlinellir yn y briff ymchwil.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Disgrifiad clir o sut mae’r ymchwil arfaethedig yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau ymchwil a amlinellir yn y briff
- Dangos sut mae tystiolaeth sy’n bodoli eisoes yn cefnogi ymchwil arfaethedig
- Dangos bod y dulliau a gynigir yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil
Sylwch fod cyfranogiad cryf gan y cyhoedd wrth ddatblygu’r cais ymchwil a chyflawni’r prosiect yn cael ei ystyried yn un o’r rhagofynion o ran ariannu.
Meini prawf asesu Cam 2
Bydd angen i ymgeiswyr a wahoddir i gyflwyno cais Cam 2 nodi eu cynllun ymchwil a’u methodoleg yn fanwl. Bydd y cais yn cael ei asesu ar sail ei ansawdd gwyddonol, a bydd y Bwrdd Ariannu yn ystyried:
- A yw’r fethodoleg a’r wyddoniaeth yn gadarn
- A oes taflwybr clir o ran effaith ar bolisi
- A yw’n dangos yn glir bod y cymysgedd sgiliau, profiad, rheoli prosiectau a’r seilwaith angenrheidiol ar waith i gwblhau’r prosiect yn llwyddiannus
- A yw’r cyfraddau recriwtio amcangyfrifedig yn cael eu hesbonio’n dda a’u cyfiawnhau
- A yw goblygiadau moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol yr ymchwil arfaethedig wedi cael eu hystyried
- A oes tystiolaeth o gyfranogiad y cyhoedd/ymarferydd wrth ddylunio a chyflwyno’r prosiect
- A yw costau’r ymchwil yn cynrychioli gwerth da am arian
Sylwch fod y meini prawf uchod yn ganllaw ar gyfer asesu, ac ni fydd y drafodaeth wedi’i chyfyngu i’r meysydd hyn.
Proses asesu
- Caiff y cynllun ariannu ei asesu drwy broses ymgeisio dau gam. Bydd pob cais (amlinellol) Cam 1 yn destun gwiriadau cymhwystra a chystadleurwydd* sylfaenol i sicrhau bod ceisiadau o fewn cylch gwaith yr alwad a’r cynllun a’u bod yn addas i symud ymlaen i gael eu hasesu.
- Bydd ceisiadau Cam 1 yn cael eu hasesu gan banel yn cynnwys aseswyr cyhoeddus, polisi, ymarfer ac academaidd a fydd yn adolygu ceisiadau ar y sail eu bod yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau a amlinellir yn y briff ymchwil (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran ‘Meini prawf asesu Cam 1’ uchod).
- Bydd panel Cam 1 yn cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ba geisiadau a ddylai symud ymlaen i Gam 2. Dim ond ymgeiswyr y mae eu cais Cam 1 yn cyd-fynd â gofynion y briff ymchwil ac sydd â methodoleg digon cadarn a wahoddir i gyflwyno cais (llawn) Cam 2.
- Caiff cynigion Cam 2 eu gwirio ar gyfer cylch gwaith a chystadleurwydd* a bydd y rhai y tybir eu bod yn gystadleuol yn destun adolygiad gwyddonol (a chyhoeddus) ac asesiad annibynnol gan y Bwrdd Ariannu. Mae’r Bwrdd Ariannu yn gwneud argymhellion ariannu i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar sail ansawdd gwyddonol/academaidd y cais (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran ‘Meini prawf asesu Cam 2’ uchod).
*Sylwch: Ystyr ‘Ddim yn gystadleuol’ yw nad yw cais o safon digon da neu nad yw wedi’i gwblhau’n ddigon da i fynd ymlaen i gael ei asesu ymhellach.