Cynllun Cyllido Integredig - Galwad canolbwyntio
Briff galwad canolbwyntio manwl: Galwad canolbwyntio : Briff ymchwil cyfathrebu ynghylch iechyd menywod (.pdf)
Cynllun Cyllido Integredig - amserlen Galwad 4
Lansiad Cam 1: 9 Ebrill 2025
Cam 1 yn cau: 28 Mai 2025
Lansiad Cam 2: 6 Awst 2025 (Dim ond i'r rhai a wahoddwyd i Gam 2)
Cam 2 yn cau: 1 Hydref 2025 (Dim ond i'r rhai a wahoddwyd i Gam 2)
Argymhellion y bwrdd cyllido: Rhagfyr 2025
Dechrau'r prosiectau a ariennir: 1 Ebrill 2026
Mae'r cynllun cyllido yn cael ei asesu trwy broses ymgeisio dau gam.
Bydd gan y galwad canolbwyntio un pwynt ymgeisio'r flwyddyn, gan lansio yn y gwanwyn. Bydd gan y gangen, dan arweiniad ymchwilwyr, fel rhan o'r Cynllun Cyllido Integredig, un pwynt ymgeisio'r flwyddyn, gan lansio ym mis Medi.
Cylch gwaith a chymhwysedd y Cynllun Cyllido Integredig
Galwad canolbwyntio
Pwrpas a chylch gwaith
Bydd y galwad canolbwyntio yn cefnogi ymchwil sy'n mynd i'r afael â'r blaenoriaethau ymchwil a amlinellir yn y briff ymchwil. Rhaid i bob ymgeisydd ddangos sut mae'r ymchwil arfaethedig yn cyd-fynd â'r gofynion a amlygwyd yn y briff ymchwil. Nodwch y gall galwadau unigol nodi gofynion penodol - gwiriwch y briff ymchwil ar gyfer yr alwad i sicrhau nad oes unrhyw eithriadau'n gymwys.
Cylch gwaith cyffredinol y Cynllun Cyllido Integredig
Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a’r rhai nad ydynt wedi arwain ymchwil o’r blaen ond sy’n edrych i adeiladu portffolios ymchwil a chael profiad o arwain ymchwil.
O fewn paramedrau cyffredinol yr alwad, croesewir ceisiadau o wahanol hyd, maint a chost. Dylai ymgeiswyr gofio bod ceisiadau yn aml yn methu ar y cam asesu am eu bod yn cael eu hystyried yn rhy uchelgeisiol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried perthnasedd ac effaith eu gwaith ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig. Dylai’r rhai sy’n datblygu treialon fod yn ymwybodol o Fframwaith Ethnigrwydd INCLUDE – Trial Forge, a’i ystyried, er mwyn helpu i wella’r ffordd y caiff treialon eu cynnal ar gyfer grwpiau a danwasanaethir.
Caiff ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, ac yn enwedig sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau, ei annog yn gryf drwy gydol y broses ymchwil er mwyn sicrhau’r potensial mwyaf o ran cyfnewid gwybodaeth ac effaith.
Dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd partneriaid ymchwil cyhoeddus yn cymryd rhan yn ystod y prosiect. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl cyfranogiad priodol sydd wedi’i ddylunio’n dda gan bartneriaid ymchwil cyhoeddus yn yr ymchwil y mae’n ei gefnogi, felly cyfeiriwch at Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd mewn Ymchwil. Mae’n hanfodol dangos ar y ffurflen gais gynlluniau ar gyfer cynnwys partneriaid ymchwil cyhoeddus ar bob cam priodol o gylch bywyd y prosiect ymchwil.
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd lunio cynllun lledaenu sy’n dangos yn glir sut y bydd negeseuon allweddol yr ymchwil yn cael eu cyfleu’n effeithiol i gynulleidfaoedd perthnasol, gan gynnwys llunwyr polisi, darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac ymchwilwyr.
Dylai ymgeiswyr ystyried yr ystod lawn o gynulleidfaoedd posibl a disgrifio sut y gellid lledaenu canfyddiadau'r ymchwil yn fwyaf effeithiol, er mwyn sicrhau bod y gwersi o'r ymchwil hon yn effeithio ar bolisi ac ymarfer.
Cymhwysedd ar gyfer y Cynllun
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol fod wedi’u lleoli mewn sefydliad yng Nghymru ar adeg gwneud cais (neu fod yn derbyn cynnig swydd sy’n golygu y byddant wedi’u lleoli yn y sefydliad cynnal cyn i’r prosiect ddechrau).
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol feddu ar PhD, MD y DU neu ddoethuriaeth broffesiynol arall yn seiliedig ar ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd neu ofal (derbynnir ceisiadau gan y rhai sydd wedi cyflwyno eu traethawd ymchwil PhD, neu gyfwerth, i’w sefydliad asesu yn ddiweddar, cyn belled â bod y ddoethuriaeth yn cael ei dyfarnu cyn i’r grant ddechrau) NEU fod â hanes cyfatebol o ymchwil ar adeg gwneud cais.
- Rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan y sefydliad cynnal.
- Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa (a ddiffinnir yma fel unigolion nad oes ganddynt fwy na 60 mis o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol, heb gynnwys, er enghraifft, seibiannau gyrfa, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a salwch), a’r rhai sydd eisiau bod yn ymchwilwyr arweiniol am y tro cyntaf.
- Rhaid i geisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa gael cefnogaeth Prif Gyd-ymgeisydd gan uwch-ymchwilydd. Fel arall, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. (Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa y mae eu ceisiadau yn llwyddiannus elwa ymhellach o aelodaeth Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.)
- Os yw’r ymgeisydd arweiniol yn ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa, rydym yn disgwyl i’r Prif Gyd-ymgeisydd ddod o’r un sefydliad oni bai bod sail resymegol gref, sy’n gysylltiedig ag arbenigedd academaidd a datblygiad yr ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa, pam nad yw hyn yn wir.
- Anogir ceisiadau ar gyfer prosiectau o wahanol hyd a gwahanol gost, ar yr amod bod achos cryf yn cael ei wneud dros werth ac ansawdd y gwaith. Y cyfnod mwyaf y gellir gwneud cais am gyllid ar ei gyfer yw 24 mis.
Y cyllid sydd ar gael
- Mae cyllideb o oddeutu £750 mil ar gael ar gyfer y galwad canolbwyntio.
- Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl cyllido tua thri i chwech o brosiectau, yn dibynnu ar gost ac ansawdd y cynigion a dderbyniwyd.
- O fewn y gronfa cyllido cyffredinol, nid oes terfyn ar feintiau uchaf neu is y dyfarniadau, er y dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o gyfanswm y gronfa sydd ar gael a disgwyliadau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ynghylch nifer y prosiectau y mae'n debygol eu cyllido.
Meini prawf asesu cam 1
Bydd angen i bob ymgeisydd ddisgrifio sut mae'r ymchwil arfaethedig yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau ymchwil a amlinellir yn y briff ymchwil.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Disgrifiad clir o sut mae ymchwil arfaethedig yn mynd i'r afael â blaenoriaethau ymchwil a amlinellir yn y briff
- Arddangos sut mae tystiolaeth sy'n bodoli eisoes yn cefnogi ymchwil arfaethedig
- Arddangos bod y dulliau a gynigir yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil
Nodwch fod cyfranogiad cryf y cyhoedd, wrth ddatblygu'r cais ymchwil a chyflwyno'r prosiect, yn cael ei ystyried yn rhagofyniad y cyllido.
Meini prawf asesu cam 2
Bydd angen i ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyflwyno cais Cam 2 nodi'n fanwl eu cynllun ymchwil a'u methodoleg. Bydd y cais yn cael ei asesu ar ei ansawdd gwyddonol, a bydd y Bwrdd Cyllido yn ystyried y canlynol:
- A yw'r fethodoleg a'r wyddoniaeth yn gadarn
- A oes trywydd clir ar gyfer effaith polisi
- A oes arddangosiad clir o'r cymysgedd sgiliau, profiad, rheoli prosiect a seilwaith angenrheidiol ar gyfer cwblhau'r prosiect yn llwyddiannus
- A yw'r cyfraddau recriwtio amcangyfrifedig wedi'u hesbonio a'u cyfiawnhau'n dda
- A yw goblygiadau moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol yr ymchwil arfaethedig wedi cael eu hystyried
- A oes tystiolaeth o gyfranogiad y cyhoedd/ymarferwyr yn y gwaith o ddylunio a chyflwyno'r prosiect
- Mae costau'r ymchwil yn cynrychioli gwerth da am arian
Nodwch fod y meini prawf uchod yn ganllaw ar gyfer asesu, ac ni fydd y drafodaeth yn gyfyngedig i'r meysydd hyn.
Y Broses Asesu
- Mae'r cynllun cyllido yn cael ei asesu trwy broses ymgeisio dau gam. Bydd pob cais Cam 1 (amlinellol) yn cael gwiriadau cymhwysedd a chystadleurwydd sylfaenol* i sicrhau bod ceisiadau o fewn cylch gwaith a chynllun y galwad ac yn addas i symud ymlaen i'r cam asesu.
- Bydd ceisiadau Cam 1 yn cael eu hasesu gan banel sy'n cynnwys aseswyr cyhoeddus, polisi, ymarfer ac academaidd, a fydd yn adolygu ceisiadau ar sail eu bod yn mynd i'r afael â blaenoriaethau a amlinellir yn y briff ymchwil (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran 'Meini Prawf asesu Cam 1' uchod).
- Bydd panel Cam 1 yn cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ba geisiadau ddylai symud ymlaen i Gam 2. Dim ond ymgeiswyr y mae eu cais Cam 1 yn cyd-fynd â gofynion y briff ymchwil, ac sydd â methodoleg ddigon cadarn, sy'n cael eu gwahodd i gyflwyno cais Cam 2 (llawn).
- Mae cynigion Cam 2 yn cael eu gwirio ar gyfer cylch gwaith a chystadleurwydd*, ac mae'r rhai sy'n cael eu hystyried yn gystadleuol yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid gwyddonol (a chyhoeddus) ac asesiad annibynnol gan y Bwrdd Cyllido. Mae'r Bwrdd Cyllido yn gwneud argymhellion cyllido i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn seiliedig ar ansawdd gwyddonol/academaidd y cais (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran 'Meini Prawf asesu Cam 2' uchod).
*Nodwch: Mae 'nid yw'n gystadleuol' yn golygu nad yw cais o safon ddigon uchel neu nad yw wedi'i gwblhau'n ddigon da i'w gymryd ymlaen ar gyfer asesiad pellach.
Cofrestrwch i'n bwletin wythnosol am y newyddion diweddaraf ar ein holl gynlluniau cyllido.