Helpwch i wella triniaeth menopos a perimenopos
Ymunwch â phwyllgor llywio i helpu i lunio astudiaeth sydd â’r nod o ddarganfod a allai ychwanegu testosteron at therapi amnewid hormonau (HRT) wella symptomau'r menopos.
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd, yn cynnal astudiaeth i ddarganfod a all ychwanegu testosteron at therapi amnewid hormonau (HRT) safonol wella symptomau'r menopos.
Mae'r cyfle hwn yn rhan o brosiect ymchwil a ariennir, o'r enw ESTEEM sy’n gwerthuso effeithiolrwydd clinigol, ac o ran cost, rhoi testosteron i wella ansawdd bywyd yn ymwneud â’r menopos, a gefnogir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR). Bydd y treial yn weithredol rhwng 2025 a 2028.
Fel cyfrannwr cyhoeddus ar y pwyllgor llywio, byddwch yn helpu i oruchwylio cynnydd yr astudiaeth ac yn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn foesegol, yn dryloyw ac yn berthnasol i bobl sydd â phrofiad bywyd.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- bod yn defnyddio HRT ar hyn o bryd ar gyfer perimenopos neu menopos a dal i fod yn profi symptomau
- gallu defnyddio Microsoft Word ac ymuno â chyfarfodydd ar-lein trwy gyfryngau fideogynadledda
- bydd dealltwriaeth o dreialon clinigol yn ddefnyddiol ond nid yn ofynnol, darperir hyfforddiant a chefnogaeth
- Beth fydd yn gofyn i mi ei wneud?
- Byddwch yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor llywio (tua phedwar i bump ar draws yr astudiaeth gyfan) ac yn adolygu dogfennau perthnasol.
- Byddwch yn cyfrannu eich profiad bywyd a'ch safbwynt i helpu i lywio'r astudiaeth a sicrhau bod buddiannau cyfranogwyr yn cael eu hystyried.
- Pa mor hir y bydd fy angen?
- Byddwch yn cymryd rhan rhwng gwanwyn 2025 a 2028. Bydd cyfarfodydd yn para un i ddwy awr yr un, gydag awr o amser paratoi ar gyfer adolygu dogfennau cyn pob cyfarfod.
- Beth yw rhai o 'r manteision i mi?
- Cyfle i gyfrannu at ymchwil a allai wella gofal menopos
- Profiad o weithio gyda thîm ymchwil cefnogol a phrofiadol
- Golwg ar waith treialon ymchwil
- Pa gymorth sy'n cael ei gynnig?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol.
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Byddwch yn cael eich cefnogi gan arweinydd cynnwys y cyhoedd ymroddedig, a darperir unrhyw hyfforddiant angenrheidiol.
Os ydych chi'n derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Ganolfan Ymchwil Treialon
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm