Allwch chi ein helpu i ddewis enillwyr ein gwobrau?
Rhowch eich barn ar geisiadau am Wobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025
Bydd Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025 yn dathlu cyflawniadau'r gymuned ymchwil yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.
Bydd panel o feirniaid yn penderfynu pwy fydd enillydd pob un o'r pedwar categori a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 10 Hydref yng Ngerddi Sophia.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn dyfarniad cyllid o hyd at £250 i fynychu cwrs hyfforddi, cynhadledd, gweithdy, neu ddigwyddiad tebyg i ddatblygu maes o'u set sgiliau ymchwil.
Mae rhagor o wybodaeth am gategorïau’r gwobrau ar ein gwefan.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- Bod â diddordeb neu brofiad mewn adolygu ceisiadau am ddyfarniadau
- Yn gallu mynychu cyfarfodydd panel ar-lein ym mis Medi 2025
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Fe'ch gwahoddir i ymuno ag un o'r pedwar panel gwobrwyo a gynhelir ym mis Medi 2025. Eich rôl chi fydd adolygu'r holl geisiadau am y wobr a sgorio pob un yn ôl y canllawiau. Wrth gyflwyno eich ffurflen mynegi diddordeb, rhowch wybod pa banel gwobrwyo yr hoffech fod yn rhan ohono.
- Pa mor hir fydd fy angen?
Gofynnir i chi adolygu'r holl geisiadau a gyflwynir ar gyfer pob gwobr. Mae'r amser a gymerir i adolygu'r rhain yn dibynnu ar faint o geisiadau a dderbynnir. Gofynnir i chi fynychu un o'r cyfarfodydd panel canlynol hefyd, a fydd yn para 1.5 awr.
- Gwobr ymgorffori ymchwil mewn arfer – 10 Medi 10am-11:30am
- Gwobr cynnwys y cyhoedd – 10 Medi 2pm – 3:30pm
- Gwobr effaith iechyd a gofal cymdeithasol – 11 Medi 10am – 11:30am
- Gwobr seren ymchwil y dyfodol – 11 Medi 2pm – 3:30pm
Rhowch wybod i ni pa banel yr hoffech gael eich ystyried ar ei gyfer.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Helpu i ddathlu rhagoriaeth ymchwil yng Nghymru
- Datblygu sgiliau cyfathrebu, adolygu dogfennau a gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
- Magu hyder wrth rannu eich barn a dylanwadu ar benderfyniadau
- Pa gefnogaeth a gynigir?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth)
- Byddwch yn cael eich cefnogi gan aelod o'r tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys i fynychu'r cyfarfod panel
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
Llenwch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm