
"Nid dim ond dadansoddi data ydym ni’n ei wneud, rydyn ni’n gwrando ar bobl ifanc"—Lleisiau ifanc wrth wraidd ymchwil iechyd meddwl
10 Medi
Mae prosiect ymchwil newydd yn cael ei amlygu ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd (10 Medi) gan mai ei nod yw trawsnewid dealltwriaeth o hunan-niweidio a hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc, yn enwedig rhai sydd mewn cyswllt â gofal cymdeithasol, gan archwilio ffyrdd y byddai’n bosibl cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed yn well.
Gan ddefnyddio dros ddegawd o brofiad ym maes atal hunanladdiad ac ymchwil hunan-niweidio, bydd Dr Amanda Marchant, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn dwyn ynghyd data iechyd, gofal cymdeithasol, mewnwelediadau ar-lein a phrofiad bywyd i lunio gwell cymorth a pholisi iechyd meddwl.
Dywedodd: "Rydyn ni wedi gweld datblygiadau mawr o ran deall hunan-niweidio mewn lleoliadau gofal iechyd. Nawr rydyn ni eisiau defnyddio'r un dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ofal cymdeithasol, lle mae potensial enfawr i gefnogi rhai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas."
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Dr Marchant gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i arwain yr astudiaeth. Mae’r mentoriaid yr Athro Ann John, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio a’r Athro Jonathan Scourfield, Dirprwy Gyfarwyddwr Partneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) yn ei chefnogi hi. Mae'r ddwy ganolfan hefyd yn cael eu hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae'r ymchwil yn defnyddio data iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg dienw o Fanc Data SAIL (Secure Anonymised Information Linkage), ochr yn ochr â dealltwriaeth o'r ap cymorth cymheiriaid TalkLife, sy'n boblogaidd ymhlith pobl ifanc sy'n ceisio cymorth iechyd meddwl ar-lein.
Bydd y prosiect hefyd yn ehangu Cofrestr Ymchwil SHARE UK, cofrestr o fwy na 2,000 o bobl sydd wedi cydsynio o ran cysylltu â nhw ar gyfer ymchwil hunan-niweidio. Bydd y gofrestr yn cael ei hymestyn i gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad bywyd o ofal cymdeithasol a hunan-niweidio, gan eu galluogi i gyfrannu'n uniongyrchol at hyn ac astudiaethau yn y dyfodol.
Bydd cyfranogwyr yn dylunio arolygon a chyfweliadau ar y cyd, yn helpu i ddehongli canfyddiadau a llunio argymhellion polisi. Mae SHARE UK eisoes wedi cefnogi astudiaethau yn rhyngwladol.
Nid dim ond dadansoddi data ydym ni’n ei wneud, rydyn ni'n gwrando ar bobl ifanc ac maen nhw eisiau cael eu clywed."
Bydd panel ymchwil newydd o bobl ifanc yn chwarae rhan ganolog yn y prosiect, gan helpu i lunio dyluniad yr ymchwil a rhoi dealltwriaeth o'r canfyddiadau.
Er bod yr astudiaeth yn dal yn ei chamau cynnar, mae Dr Marchant yn gobeithio y bydd y canfyddiadau’n arwain at welliannau yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu, yn enwedig trwy ysgolion a gofal cymdeithasol.
Ychwanegodd: "Dim ond y cam cyntaf yw'r gymrodoriaeth hon. Rydyn ni eisiau datblygu sylfaen dystiolaeth a all lywio newid hirdymor i bobl ifanc, p’un a yw hynny mewn ysgolion, gofal cymdeithasol neu fannau digidol."
Ein nod yn y pen draw yw dylanwadu ar bolisi a gwneud newid sy’n parhau i bobl ifanc agored i niwed yng Nghymru a thu hwnt."
Mae Dr Marchant hefyd yn gyd-ymchwilydd yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio sydd newydd ei sefydlu. Dan arweiniad yr Athro Ann John, cafodd y Ganolfan ei lansio eleni gyda mwy na £2 filiwn o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu gefnogi strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru i ymdrin â hunanladdiad a hunan-niweidio.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd y gall y Gyfadran eu darparu a sut y gallwch chi ddechrau arni neu gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa ymchwil, cofrestrwch i dderbyn ein bwletin wythnosol i gael y newyddion diweddaraf.