Yr Athro Jonathan Scourfield

Yr Athro Jonathan Scourfield

Uwch Arweinwyr Ymchwil & Cyd-arweinydd Arbenigol ar gyfer Gofal Cymdeithasol

Mae’r Athro Jonathan Scourfield yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig fu’n gweithio fel athro ysgol uwchradd, gweithiwr grŵp mewn cymuned therapiwtig a swyddog prawf cyn dod yn academydd. Cefndir academaidd Jonathan yw gradd Hanes yng Nghaergrawnt, hyfforddiant athrawon yn Llundain a chymhwyster gwaith cymdeithasol a PhD yng Nghaerdydd.

Dechreuodd Jonathan ei yrfa academaidd fel ymchwilydd ansoddol yn unig, yn gwneud PhD ethnograffig, ac yna symudodd ymlaen i wneud ymchwil fwy meintiol, gwerthusol ar ôl hyfforddi mewn Epidemioleg. Mae wedi addysgu ar raglenni gwaith cymdeithasol amrywiol ers 1996 pan ddechreuodd weithio ym Mhrifysgol Caerdydd.

O fis Ionawr 2018 i fis Mai 2021, cafodd Jonathan ei secondio i Lywodraeth Cymru fel cynghorydd polisi arbenigol i’r Gweinidog a oedd yn gyfrifol am ofal cymdeithasol. Mae’n Ymddiriedolwr Grŵp Hawliau’r Teulu.


Yn y newyddion:           

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Gweminar Grant Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Medi 2021)

Sefydliad

CASCADE

Cysylltwch â Jonathan

E-bost

Ffôn: 02920 875402