'Cyfuno, arsylwi ac addasu': Yr Athro Ann John yn rhannu gwersi o'i gyrfa ymchwil
29 Hydref
Yr Athro Ann John yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio newydd, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymr lle mae hi'n canolbwyntio ar drawsnewid ymchwil yn ganlyniadau ymarferol.
Mae hi'n athro mewn Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae wedi derbyn dyfarniad personol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Cadeiriodd Grŵp Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio o 2014-2024. Ar hyn o bryd mae'n cadeirio Pwyllgor Safonau Atal Hunanladdiad Sefydliad Prydain a Rhwydwaith Cenedlaethol Atal Hunanladdiad y Sefydliadau Brenhinol.
Rhoddodd yr Athro John trafodaeth dull TED yng nghynhadledd flynyddol degfed Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan fyfyrio ar ei gyrfa ymchwil gyda lluniau o Shirley Temple, Kathryn Hepburn, Cary Grant a'i Thad-cu y tu ôl iddi.
Gan dynnu ar ei phrofiad o dyfu i fyny rhwng dau ddiwylliant, esboniodd sut roedd dysgu "cyfuno, arsylwi ac addasu" yn meithrin empathi, cryfhau ei gwaith clinigol a llunio'i hymchwil. Dywedodd wrth y gynulleidfa:
"Nid yw eich gwahaniaeth yn rhywbeth i'w guddio, mae'n rhoi mantais i chi."
Anogodd ymchwilwyr i gynnal chwilfrydedd a chydnabod y fraint o allu meddwl a darllen am fywoliaeth.
"Diolch am gadw at hynny," meddai wrth ei hunan iau.
Yn bwysicaf oll, anogodd y gynulleidfa i gadw at eu hangerdd, gan ychwanegu:
"Mae angerdd yn golygu y gallwch drosi eich ymchwil i newid a chadw ati drwy'r holl gyfnodau da a drwg."
Trafododd yr Athro John sut roedd ei thîm yn herio naratifau traddodiadol mewn atal hunanladdiad, gan symud ffocws y tu hwnt i seiciatreg i gynnwys gofal sylfaenol, a chwalu mythau fel dynion yn methu a cheisio help, gan ofyn i ni feddwl am sut rydym yn ymateb i ddynion mewn trallod.
Un o'i phrosiectau ymchwil arwyddocaol oedd Porth Gwe Hunan-niweidio Cymru (prosiect SHeP-Cymru), ysgoloriaeth a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac a gwblhawyd yn 2020. Mae'r prosiect yn archwilio'r diffyg monitro cynhwysfawr o hunan-niweidio y tu allan i leoliadau adran achosion brys.
Mae'r Athro John yn disgrifio'i gyrfa fel cyfuniad o ofal clinigol ac ymchwil gyda nod cyffredin: gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl.
Darganfyddwch fwy am yr Athro John drwy wylio ei thrafodaeth dull TED yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025.