FAQ

Rydyn ni’n hapus iawn eich bod chi eisiau cael gwybod mwy am gael eich cynnwys mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Efallai fod gennych chi gwestiynau am hyn. Dyma’r atebion i rai cwestiynau cyffredin. Os oes gennych chi gwestiynau eraill ar ôl darllen y rhain, mae croeso ichi cysylltwch â ni

Mae gennym ni hefyd ganllaw cynhwysfawr i negeseuon allweddol a allai fod yn ddefnyddiol ichi hefyd. 

  • helpu i benderfynu pa broblemau yw’r rhai pwysicaf i’w hateb trwy ymchwil; darllen gwybodaeth ar gyfer cleifion ynglŷn ag astudiaeth ymchwil a gwirio ei bod yn hawdd i’w deall;
  • dod yn gynrychiolydd cyhoeddus ar grŵp sy’n rhedeg astudiaeth ymchwil;
  • helpu i benderfynu pa astudiaethau ymchwil y dylid eu hariannu.

Gall rhai cyfleoedd ymchwil alw am wneud sylwadau ar ddogfen trwy e-bost, neu alw am adolygu gwefan unwaith ac am byth. Mae yna gyfleoedd tymor hir hefyd sy’n gallu galw am fynychu cyfarfodydd rheolaidd dros gyfnod o flwyddyn neu am flynyddoedd.

Does dim ond angen ichi fynegi eich diddordeb yn y cyfleoedd ymchwil sy’n berthnasol i’ch profiad, eich sgiliau a’ch diddordebau chi ac i’r amser rydych chi ar gael.

Beth yw cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil?

Cynnwys y cyhoedd yw lle mae aelodau'r cyhoedd yn rhannu eu hamser a'u profiadau personol i helpu i benderfynu pa ymchwil sy'n digwydd a sut mae'n digwydd.

Cynnwys y cyhoedd yw lle nad yw pobl yn cymryd rhan fel cyfranogwyr yn yr ymchwil ond yn gweithio gydag ymchwilwyr i gynllunio, rheoli a chynnal ymchwil.

Gall cyfranogiad o’r fath fod ar sawl ffurf, gall gynnwys:

  • helpu i benderfynu pa broblemau sydd bwysicaf i'w hateb trwy ymchwil
  • cyfrannu at ysgrifennu taflenni gwybodaeth i gleifion
  • dod yn gyfrannwr cyhoeddus ar grŵp sy'n cynnal astudiaeth ymchwil
  • gwneud penderfyniadau ynghylch pa astudiaethau ymchwil y dylid eu hariannu
  • cynorthwyo gyda rhannu canfyddiadau ymchwil
  • llywodraethu ymchwil sy'n broses i sicrhau ansawdd ymchwil, ac i amddiffyn hawliau, urddas, diogelwch a llesiant y rhai sy'n cymryd rhan. Gallai hyn fod yn rheolaeth ymchwil, neu'n gynrychiolaeth bwrdd

Gallwch chi ddysgu mwy trwy ddarllen y daflen ar beth y mae cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yn ei olygu.

Pam ddylwn i gymryd rhan mewn ymchwil a pha fudd y mae'n ei gynnig i'r ymchwil a minnau?
  • Ymhlith y buddion i'r rhai sy'n cymryd rhan mae'r cyfle i lunio ymchwil a allai effeithio arnoch chi, eich teulu neu ffrindiau
  • Mae defnyddio'ch profiad personol o gyflwr, salwch neu wasanaeth yn rhoi dealltwriaeth i'r tîm astudiaeth ymchwil o sut mae'r profiadau hyn yn effeithio ar bobl mewn bywyd beunyddiol
  • Gall cyfrannu eich persbectif fod o fudd i ymchwil trwy sicrhau bod astudiaethau ymchwil yn gofyn y cwestiynau sy'n fwy perthnasol ac yn debygol o wella triniaeth a gofal
  • Gall cymryd rhan mewn ymchwil hefyd fod yn ffordd wych o gwrdd â phobl
  • Gall fod yn gam tuag at ddatblygu gwybodaeth a sgiliau defnyddiol newydd
Sut alla i gymryd rhan mewn ymchwil?

Gallwch ymuno â'r gymuned cynnwys y cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru trwy:

Gofrestru ar-lein

Neu trwy gysylltu â'r tîm cynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd (PI&E) i gael cefnogaeth gyda chofrestru

I beth fyddai’n ymrwymo fy hun drwy gofrestru gyda'r gymuned cynnwys y cyhoedd?

Ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn:

  • Bwletin wythnosol sy'n cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd cynnwys mewn ymchwil lle gallwch chi fynegi diddordeb a diweddariadau gan y tîm.
  • Mynediad at hyfforddiant ac arweiniad am ymchwil a chynnwys y cyhoedd. Ymhlith yr enghreifftiau mae Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd a chefnogaeth gan y tîm cynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd, sef eich prif gyswllt ar gyfer unrhyw broblemau neu ymholiadau
  • Talu treuliau a chynnig taliad am amser gyda rhai cyfleoedd cynnwys
  • Cyngor mynediad at fudd-daliadau

Mae cynnwys y cyhoedd yn gwbl wirfoddol ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i fynegi diddordeb yn unrhyw un o'r cyfleoedd. Eich dewis chi yw faint o ran yr hoffech ei chwarae, gan ei bod yn bwysig gweithio o amgylch eich ymrwymiadau rheolaidd.

A oes gwahanol ffyrdd i'r cyhoedd gymryd rhan mewn ymchwil?

Gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil mewn amryw o ffyrdd ac mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys:

  • helpu i benderfynu pa broblemau sydd bwysicaf i'w hateb trwy ymchwil;
  • darllen gwybodaeth i gleifion am astudiaeth ymchwil a gwirio ei bod yn hawdd ei deall;
  • dod yn gynrychiolydd cyhoeddus ar grŵp sy'n cynnal astudiaeth ymchwil;
  • helpu i benderfynu pa astudiaethau ymchwil y dylid eu hariannu.

Gall rhai cyfleoedd ymchwil gynnwys rhoi sylwadau ar ddogfen trwy e-bost, neu gall fod yn adolygiad unwaith ac am byth o wefan. Mae hefyd gyfleoedd tymor hir a all olygu eich bod chi'n mynychu cyfarfodydd rheolaidd dros flwyddyn neu flynyddoedd.

Y cyfan sydd angen i chi wneud yw mynegi eich diddordeb yn y cyfleoedd ymchwil sy'n addas i'ch profiad, sgiliau, diddordebau ac argaeledd.

Sut ydw i yn mynegi diddordeb mewn cyfle?

 

  • Rhestrir yr holl gyfleoedd ar y dudalen cyfleoedd cyfredol 
  • Daw pob cyfle a hysbysebir gyda dolen ar-lein y cliciwch arni i fynegi eich diddordeb
  • I fynegi diddordeb, gofynnir ichi ddisgrifio yn eich geiriau eich hun sut rydych chi'n cyfateb i'r gofynion a nodir yn y cyfle
  • Bydd yr ymchwilydd sy'n arwain ar y cyfle yn adolygu pob un o'r mynegiadau o ddiddordeb ac yn dewis y nifer ofynnol o unigolion
  • Fe'ch hysbysir p’un a ydych wedi'ch dewis ai peidio ac yna bydd yr ymchwilydd yn cysylltu â chi os yw'n llwyddiannus i drafod y camau nesaf
Sut mae cynnwys y cyhoedd yn cael ei gefnogi yng Nghymru?

Mae pawb sydd yn newydd i gynnwys y cyhoedd yn cael eu cyfeirio at gyflwyniad cyflwyniad ar-lein i gynnwys y cyhoedd (DS yn agor mewn ffenestr newydd)

Is-adran Ymchwil a Datblygu Ymchwil Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru a osododd gynnwys y cyhoedd yn y strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylai’r holl gynnwys y cyhoedd alinio â’r set o safonau sy'n arwain ac yn siapio cynnwys y cyhoedd a darparu’r fframwaith ar gyfer yr hyn ddylai cynnwys y cyhoedd da fod.

Mae tîm cynnwys y cyhoedd Canolfan Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu'r gefnogaeth a'r arweiniad a'r adnoddau i aelodau'r cyhoedd ac ymchwilwyr i sicrhau y gall cynnwys y cyhoedd ddigwydd yng Nghymru.

Mae'r tîm yn rheoli cronfa ddata o bobl, y Gymuned Cynnwys y Cyhoedd y gall unrhyw aelod o'r cyhoedd gofrestru iddi. Mae'r tîm yn hyrwyddo cofrestru trwy amrywiol sianeli cyfathrebu i ddod o hyd i bobl, ac yn aml iawn yn chwilio am bobl y mae'r cyfle yn berthnasol iddynt trwy gysylltiadau yng nghymuned Cymru / rhwydweithiau cymorth afiechyd neu gyflwr, neu trwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r tîm yn darparu hyfforddiant, adnoddau a sianeli cyfathrebu cynnwys y cyhoedd i'r cyhoedd ac ymchwilwyr. Yn y byd ymchwil, mae hefyd lawer o weithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldeb am gynnwys y cyhoedd sy'n digwydd yn eu maes gwaith, er enghraifft iechyd meddwl, neu mewn cartref gofal, neu materion iechyd y cyhoedd sy'n effeithio ar bobl ifanc. Yn aml mae grwpiau o aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn y meysydd ymchwil hyn a gefnogir gan y gweithwyr proffesiynol hyn ac sy'n gweithio gyda nhw.

Mae gan dîm cynnwys y cyhoedd Canolfan Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru rôl oruchwylio i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei darparu ar draws yr holl weithgaredd cynnwys y cyhoedd.

A fyddaf yn cael tâl am gymryd rhan?

Mae cymryd rhan mewn cyfleoedd cynnwys o’r fath yn rôl wirfoddol, ac o'r herwydd ni fyddwch yn cael cyflog na thâl am gymryd rhan, ac ni ddylid ei ystyried yn gyflogaeth.

Efallai y bydd rhai cyfleoedd yn cynnig tâl am eich amser a bydd hyn yn cael ei egluro yn yr hysbyseb cyfle. I gael mwy o wybodaeth am dalu am amser, darllenwch ein canllaw treuliau a thalu am amser.

Gellir ystyried unrhyw daliad rydych chi'n ei gael neu'n penderfynu ei dderbyn yn incwm trethadwy. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl fesurau a datganiadau ar gyfer eich amgylchiadau unigol yn eu lle (gellir cael cyngor pellach ynghylch trethiant a gynhyrchir gan incwm gan Gyllid a Thollau EM)

A fydd unrhyw daliad yn effeithio ar fudd-daliadau?

Ar hyn o bryd rydym wrthi'n newid y gwasanaeth sy'n darparu cyngor ac arweiniad ar fudd-daliadau. Yn y cyfamser, cysylltwch â'r tîm gydag unrhyw gwestiynau:

E-bost research-involvement@wales.nhs.uk

Gellir ystyried unrhyw daliad rydych chi'n ei gael neu'n penderfynu ei dderbyn yn incwm trethadwy. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl fesurau a datganiadau ar gyfer eich amgylchiadau unigol yn eu lle (gellir cael cyngor pellach ynghylch trethiant a gynhyrchir gan incwm gan Gyllid a Thollau EM

A fydd yn costio unrhyw beth i mi gymryd rhan?

Ni ddylai gostio unrhyw beth i chi gymryd rhan.

Mae gennym broses cyn-gymeradwyo sy'n sicrhau bod unrhyw gostau allan o boced (treuliau) wedi'u cytuno cyn y gweithgaredd cynnwys, a chyn i'r unigolyn sydd wedi'i gofrestru gyda'r gymuned cynnwys y cyhoedd wynebu unrhyw gostau.

Lle bynnag y bo modd, byddwn yn archebu ac yn talu am gostau ymlaen llaw.

Mae hyn yn sicrhau nad yw'r unigolion dan sylw ar eu colled ac yn ein galluogi i gael gwerth da am arian gydag arian cyhoeddus.

I gael mwy o wybodaeth am dreuliau, darllenwch ein canllaw treuliau a thaliadau am amser.

Beth yw cyfleoedd ymchwil?

Mae'r rhain fel arfer yn hysbysebion gan ymchwilwyr neu sefydliadau ymchwil sy'n chwilio am aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan mewn prosiect neu bwyllgor ymchwil

Sut alla i ddarganfod pa gyfleoedd sydd ar gael?

Mae hysbysebion yn cael eu postio ar ein tudalen cyfleoedd cyfredol ac yn y bwletin wythnosol ‘Mae eich cynnwys yn bwysig’.

Mae cyfleoedd cynnwys yn dod o fewn un o 3 chategori: glas, gwyrdd a choch. Mae'r lliwiau'n eich helpu i wybod lefel y wybodaeth a'r profiad sy'n ofynnol, yn ogystal â faint o amser fydd ei angen ar aelod o'r cyhoedd trwy gydol y broses o gymryd rhan. Rydym wedi darparu Y tri chategori cynnwys canllaw defnyddiol i'ch helpu chi i ddeall y gwahanol gategorïau. 

Sut alla’ i gael gwybod am hyfforddiant sydd ar gael?

Nid ydyn ni’n cynnal hyfforddiant wyneb yn wyneb ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil ar hyn o bryd ac rydyn ni’n gweithio i ymestyn y llyfrgell e-ddysgu sydd ar gael. Mae ein cyflwyniad ar-lein i gynnwys y cyhoedd ar gael i bob aelod cymunedol a phob ymchwilydd. Mae llyfrgell NIHR o gyrsiau cynnwys y cyhoedd defnyddiol i’w