Llun o’r Athro Kieran Walshe

Penblwydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwech oed: neges oddi wrth yr Athro Kieran Walshe

14 Mai

Wrth i ni gyrraedd penblwydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwech oed, buaswn yn hoffi eich atgoffa o’r hyn yr  ydym wedi ei gyflawni fel cymuned ymchwil eleni. 

Yn ystod y pandemig, gallwn fod yn falch o’r modd y bu i ni ymateb mor gyflym i’r angen am ymchwil i ofal effeithlon ar gyfer cleifion gyda COFID-19. Buom yn cydweithio yn rhyfeddol o effeithlon a thrylwyr gyda phartneriaid ledled y DU ac ar draws y byd er mwyn datblygu a phrofi brechlynau a thriniaethau yng Nghymru. 

Erbyn hyn rydym wedi bod yn rhan o sefydlu’r astudiaeth ac wedi recriwtio cyfranogwyr ar gyfer pedwar o dreialon brechlynau, yn cynnwys Oxford/AstraZeneca, Janssen, Novavax a Medicago, yn ogystal ag astudiaethau iechyd cyhoeddus ledled Cymru. Fe wnaeth  y gobaith am driniaethau newydd a brechlyn effeithiol ysbrydoli mwy na 36,000 o bobl Cymru i fod yn rhan o’r gwaith ymchwil unigryw hwn. 

Cynhaliwyd astudiaeth o gôd genetig cannoedd o bobl oedd yn ddifrifol wael gyda COFID-19 er mwyn helpu ymchwilwyr i ddeall pam eu bod yn agored i’r feirws, a hyn fel rhan o brosiect Prydain gyfan sef GenOMICC. Yn ogystal, chwaraeodd banc data  SAIL (Secure Anonymised Information Linkage) ran allweddol mewn sicrhau bod data astudiaethau COVID-19 ar gael yn ddiogel i ymchwilwyr ar draws y byd.

Roedd ymdopi gyda’r swm cynyddol o dystiolaeth ar COFID-19 yn golygu sialens newydd i ymchwilwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a’r rhai oedd yn llunio polisïau. Arweiniodd hyn at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn sefydlu Canolfan Tystiolaeth COVID-19 Cymru, gyda’r pencadlys ym Mhrifysgol Caerdydd,  ar gyfer y gwaith o gydlynu a blaenoriaethu’r wybodaeth hon. 

O edrych i’r dyfodol, gallwn adeiladu ar lawer o’r hyn a ddysgwyd oddi wrth y pandemig. Mae gweledigaeth newydd y DU ar gyfer cyflawni ymchwil clinigol yn gosod allan gynlluniau ar gyfer GIG fydd yn gwneud ymchwil yn rhan hanfodol o ofal cleifion, ac yn hyrwyddo holl staff iechyd a gofal i gefnogi ymchwil fel rhan o’u swydd. Mae Cymru wedi profi ei gallu i chwarae rhan allweddol ac arweniol mewn ymchwil  hanfodol bydeang ac os yw hyn i barhau i ddatblygu mae’n rhaid cael mwy o gydweithrediad ar draws sectorau a phedair cenedl y DU.

Felly, rwyf unwaith eto yn diolch i chi am eich holl ymroddiad a’ch gwaith caled. 

Ar ddiwedd yr hyn sydd wedi bod yn chweched blwyddyn brysur ac un nad oedd neb wedi ei rhagweld i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym yn gwybod bod ein gwaith yn cefnogi ac yn cyflawni ymchwil wedi bod yn bwysicach nag erioed. Ar ein penblwydd, gobeithio y gall pawb yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn ein cymuned ymchwil gymryd munud fach i ymfalchïo yn y rhan yr ydych wedi ei chwarae yn y frwydr yn erbyn y pandemig hwn, er mwyn gwella iechyd pobl yng Nghymru, gweddill y DU a thu hwnt. 

Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru