Pleidleisiwch nawr dros y cwestiynau pwysicaf wrth gyfathrebu ynghylch iechyd menywod
21 Ionawr
Mae ein hail arolwg nawr ar agor i chi bleidleisio ar y blaenoriaethau sydd bwysicaf i chi!
Cefndir y prosiect
Mae iechyd menywod yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru ac mae cyfathrebu ynghylch materion iechyd menywod yn faes allweddol yn hyn o beth:
Trwy ein prosiect blaenoriaethu diweddaraf, byddwn yn nodi'r 'cwestiynau heb eu hateb' a'r bylchau mewn ymchwil ynghylch cyfathrebu ar bob agwedd ar iechyd menywod a merched 16 oed a hŷn. Byddwn yn gwneud hyn drwy wrando ar y rhai sydd â phrofiad byw o gyfathrebu eu hiechyd gyda gweithwyr proffesiynol y GIG, a chan ymarferwyr y GIG sy'n gofalu amdanynt.
Cymerodd dros 600 o ymarferwyr a phobl ifanc ledled Cymru ran yn ein harolwg cyntaf i rannu eu syniadau a'u profiadau. Mae'r rhain wedi cael eu dadansoddi a'u grwpio'n gwestiynau cryno.
Rydym am leihau'r rhestr o 37 o gwestiynau cryno, trwy gasglu eich pleidleisiau ar y cwestiynau rydych chi fwyaf awyddus i ymchwil fynd i'r afael â hwy yn yr ail arolwg hwn.
Pam ddylwn i gymryd rhan?
Gall ymchwil ein helpu ni i wneud y newidiadau sydd eu hangen drwy lenwi bylchau yn ein gwybodaeth. Er mwyn cynnal ymchwil ddefnyddiol, mae'n rhaid i ni wrando arnoch chi a’r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn, i nodi'r pryderon a'r syniadau pwysicaf sydd gennych.
Pan gynhelir ymchwil yn y dyfodol, rydym am iddi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru a gwella ansawdd y gofal a'r cymorth y maen nhw'n ei gael.
Bydd canlyniadau'r arolygon a'r grwpiau trafod yn cael eu defnyddio i nodi set o 10 Uchaf o flaenoriaethau ymchwil y byddwn yn eu hyrwyddo i gyllidwyr ymchwil. Bydd y canfyddiadau hefyd
Cymerwch ran yn yr arolwg i bleidleisio dros eich blaenoriaethau nawr!
Beth rydyn ni'n ei ofyn ichi ei wneud?
- Cymerwch ran yn yr arolwg hyd yn oed os na wnaethoch gymryd rhan yn ein harolwg cyntaf.
- Annog eraill i gymryd rhan, drwy rannu'r wefan hon gyda chydweithwyr, ffrindiau a theulu.
Dylai'r arolwg gael ei lenwi gan y rhai sydd â phrofiad (personol neu drwy waith) o gyfathrebu o fewn gwasanaethau'r GIG am unrhyw agwedd ar iechyd menywod.
Mae hyn yn cynnwys:
- menywod a merched 16+ oed, pobl sydd wedi'u cofrestru'n fenyw adeg eu geni
- Ymarferwyr y GIG neu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau strategol ar draws gofal sylfaenol, uwchradd a chymunedol
Dylai'r arolwg gymryd tua 5 munud, ond dim ots os yw'n cymryd mwy o amser i chi.
Ar agor: 20 Ionawr 2025
Yn cau: 5 Chwefror 2025
Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn gwbl wirfoddol, a bydd eich atebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Gweler yr hysbysiad preifatrwydd.
Rydym yn hapus i dderbyn cyflwyniadau yn seiliedig ar drafodaethau grŵp am gwestiynau'r arolwg, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cwblhau arolwg ar-lein. Os gallwch gydweithio â ni a helpu i hyrwyddo'r arolwg mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Natalie Gerardo.
Camau nesaf
Bydd y Deg Uchaf terfynol yn cael ei benderfynu gan ymarferwyr a phobl sydd â phrofiad byw (menywod, merched (16 oed +), pobl sydd wedi'u cofrestru yn fenyw ar enedigaeth) yn ystod gweithdy ar-lein.
I gymryd rhan yn y gweithdy, gallwch rannu eich manylion ar ddiwedd yr arolwg.
Unwaith y bydd gennym ein Deg Uchaf byddwn yn cyflwyno'r rhain i ymchwilwyr a chyllidwyr ymchwil.
Cymerwch ran yn yr arolwg i bleidleisio dros eich blaenoriaethau nawr!