Dr Georgina Powell
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol (2020 - 2024)
Teitl y prosiect: A longitudinal investigation of new ‘Smart Speaker’ personal assistants to improve independence and wellbeing in social care settings
Bywgraffiad
Mae Dr Georgie Powell yn Gymrawd Ymchwil a Darlithydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd. Enillodd ei BSc (anrh) a’i doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, lle derbyniodd wobr Hadyn Ellis am y traethawd doethurol gorau. Mae gwaith ymchwil Georgie yn archwilio sut y gallai technolegau newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wella llesiant, annibyniaeth, a chynhwysiant digidol.
Yn ei Chymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Georgie yn ymchwilio sut y gellid defnyddio technoleg glyfar i gynorthwyo pobl ag anabledd dysgu ac oedolion hŷn sy’n byw mewn tai cymdeithasol. Mae Georgie hefyd yn ymchwilio sut y gall offer amlsynnwyr helpu i gefnogi anghenion synhwyraidd pobl awtistig mewn lleoliadau addysgol a phreswyl.
Darllen mwy am Georgina a’u gwaith:
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022