a_reprsentation_of_cells_inside_an_artery

£2.5 miliwn ar gyfer y treial mwyaf o’i fath i wella canlyniadau triniaeth ar gyfer rhydwelïau wedi’u blocio yn y coesau

10 Gorffennaf

Mae astudiaeth newydd a gefnogir gan y Ganolfan Treialon Ymchwil, ac a ariannir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cymharu tair gwahanol fath o feddyginiaeth teneuo gwaed i ddarganfod pa un sy'n atal problemau difrifol orau ar ôl llawdriniaeth rhydwelïau’r coesau.

Mae rhydwelïau yn y coesau sydd wedi’u rhwystro – yn aml o ganlyniad i ddiabetes neu ysmygu – yn gyffredin iawn, ond os nad ydynt yn cael eu trin, gallant arwain at golli coes, neu hyd yn oed farwolaeth. Er mwyn gwella llif y gwaed, mae gweithdrefn o'r enw angioplasti fel arfer yn cael ei gynnal, a bydd cleifion yn cael cyffuriau teneuo gwaed ar ôl hynny.

Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste sy’n arwain yr astudiaeth mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bryste, a chaiff ei hariannu gan £2.5 miliwn gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), bydd Clarity Pad (CLopidogrel, Aspirin a RIvaroxaban ar ôl ailfasgwlareiddio gydag angioplasTY ar gyfer Clefyd Rhydwelïol Ymylol [Peripherial Arterial Disease] sy’n bygwth coesau a breichiau) yn gwerthuso tri gwahanol gyfuniad o dabledi teneuo gwaed - clopidogrel; aspirin a clopidogrel, ac aspirin a rivaroxaban.

Mae dros 4,000 o driniaethau angioplasti i gynyddu llif gwaed yn y goes yn cael eu perfformio bob blwyddyn yn y DU. Rhoddir tabledi teneuo gwaed i gleifion ar ôl y driniaeth i leihau'r risg o rydwelïau’n blocio eto, torri coes i ffwrdd, a rhydwelïau eraill yn y corff yn blocio, i geisio atal trawiad ar y galon, strôc neu farwolaeth.

Mae yna lawer o fathau o dabledi teneuo gwaed, ond ar hyn o bryd nid yw'n hysbys pa un na pha gyfuniad yw’r gorau. Weithiau, caiff dau fath eu defnyddio gyda'i gilydd. Os yw dau deneuwr gwaed yn gweithio'n well nag un, gellid achub hyd at 1,600 o fywydau ac atal 800 o drychiadau bob blwyddyn yn y DU drwy eu defnyddio'n rheolaidd.

Bydd yr hapdreial yn recriwtio 1,239 o gyfranogwyr o 20 i 30 o ysbytai ledled y DU. Bydd cyfranogwyr yn cael eu dewis i gymryd un o'r cyfuniadau o dabledi teneuo gwaed, a byddan nhw’n eu cymryd am hyd at dair blynedd.

Bydd y tîm ymchwil yn dilyn i fyny gyda’r cyfranogwyr i ddarganfod a yw tabled penodol neu gyfuniad penodol o dabledi yn gweithio’n well o ran achub coesau a bywydau ar ôl angioplasti.

Dyma ddywedodd Mr Chris Twine, Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste, Athro Cyswllt Anrhydeddus Llawfeddygaeth Fasgwlaidd yn Ysgol Meddygaeth Bryste ym Mhrifysgol Bryste, a Phrif Ymchwilydd y treial: “Mae treial CLARITY PAD yn mynd i’r afael â blaenoriaethau ymchwil hanfodol i bobl sy’n byw gyda’r math mwyaf difrifol o glefyd y rhydwelïau perifferol (PAD).

“Ein treial ni yw’r treial mwyaf o’i fath ar gyfer isgemia cronig sy’n bygwth aelodau’r corff yn y DU. Gobeithiwn y bydd yn helpu miloedd o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn nawr ac yn y dyfodol.”

Esboniodd Dr Philip Pallmann, Prif Gymrawd Ymchwil Ystadegaeth yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ac ystadegydd arweiniol y treial: “Gall rhydwelïau wedi’u blocio yn y coesau arwain at broblemau iechyd difrifol, gan gynnwys gorfod torri coes i ffwrdd. Bydd ein treial yn ymchwilio i ba driniaethau teneuo gwaed sydd fwyaf effeithiol yn glinigol a mwyaf cost-effeithiol wrth atal cymhlethdodau ar ôl angioplasti tra’n rhoi’r driniaeth feddygol orau i gleifion â PAD. Gobeithiwn y bydd ein canfyddiadau’n rhoi canllawiau clir i glinigwyr ac yn gwella diogelwch cleifion ac ansawdd gofal.”

Ychwanegodd Dr Dave Gillespie, Cyfarwyddwr Treialon Haint, Llid ac Imiwnedd yng Nghanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda Chris Twine ar y treial clinigol pwysig hwn. Mae'n adeiladu ar ein portffolio o ymchwil fasgwlaidd a llawfeddygol yn y Ganolfan.”