
Pum ffordd o feithrin ymddiriedaeth gyda chymunedau a danwasanaethir
6 Mawrth
Mae cynnwys y cyhoedd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ym maes ymchwil. Fel rhan o'n gwaith, rydym wedi bod yn cysylltu â gwahanol sefydliadau i siarad â nhw am sut y gallant helpu i lunio ymchwil.
Emma Langley ydw i, Swyddog Ymgysylltu â Chynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac rwy'n ddigon ffodus i dreulio llawer o fy amser yn ymweld â grwpiau cymunedol ac yn sgwrsio â phobl o bob cwr o Gymru am ymchwil a sut y gallant gymryd rhan. Yn ystod y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio gydag Age Alive 50, grŵp o Gasnewydd a'r ardal gyfagos, eu nod yw hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac maent yn eirioli dros amrywiaeth. Dyma’r hyn yr ydyn ni wedi'i ddysgu ganddyn nhw o ran sut i gynnwys gwahanol grwpiau cymunedol mewn ymchwil.
1 - Deall anghenion a dewisiadau
Dechreuodd ein taith gydag Age Alive 50 yn gynnar yn 2024 yn y cyfarfod "Pobl Hŷn Lleiafrifoedd Ethnig: Lleisiau i'r Pŵer," lle gwnaethom gysylltu â'r grŵp am y tro cyntaf. Gwnaeth hyn sbarduno cydweithio ystyrlon a oedd yn canolbwyntio ar meithrin ymddiriedaeth a chreu cysylltiadau. Drwy ein haelod cymunedol cynnwys y cyhoedd penodol, gwnaethom ddysgu mai prif angen y grŵp oedd man diogel a dibynadwy i gwrdd.
2 – Cyfathrebu’n glir ac yn onest
Gwnaeth cyfathrebu clir helpu i fynd i'r afael ag anghenion a phryderon y grŵp, meithrin ymddiriedaeth a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Trwy Darganfod Eich Rôl 2.0, gwnaethom eu gwahodd i rannu eu safbwyntiau ar ymchwil a thrafod rhwystrau i gynnwys y cyhoedd. Roedd y ddeialog barhaus hon yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad, rheoli disgwyliadau a meithrin ymddiriedaeth gydag aelodau newydd o'r gymuned.
3 – Darparu cefnogaeth gyson a dibynadwy
Mae meithrin ymddiriedaeth yn cymryd amser ac ymdrech wirioneddol. Drwy ymgysylltu â'r grŵp, dysgu am eu diddordebau a gwrando ar eu pryderon, rydym wedi creu cysylltiadau cryf. Gwnaethom ddarparu cefnogaeth gyson trwy berson cyswllt wedi’i neilltuo yr oedd y grŵp eisoes yn ymddiried ynddi, gan helpu i rannu gwybodaeth bwysig i'r grŵp am yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn y cyfarfod. Hefyd, roedd cynnal cyfarfod o flaen llaw gyda'r grŵp er mwyn i mi allu mynd dros yr hyn yr oedd ei angen ganddynt yn eu helpu i fod yn fwy cyfforddus.
4 – Eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau a chynllunio
Mae cynnwys y grŵp yn gynnar yn y broses ymchwil yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth a hyder iddynt. Gwnaethom eu gwahodd i gyfrannu at astudiaeth fyw yn ymwneud â theithio lleol gan Catherine Purcell yn y Canolfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE). Gan weithio gyda'n haelod dibynadwy o'r grŵp, gwnaethom rannu gwybodaeth trwy WhatsApp a thecstio i bennu diddordeb. Ar y diwrnod, fe wnaethom gwrdd â nhw yn eu man arferol i sicrhau eu bod yn teimlo'n gyfforddus ac wedi’u hymgysylltu.
5 – Dathlu eu llwyddiant a'u cyflawniadau
Gwnaethom gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r grŵp, p'un ai drwy e-bost neu alwadau ffôn, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd y prosiect. Mae cydnabod eu cyfraniadau, p’un ai’n llunio cynnig neu'n cyflwyno mewn digwyddiad, yn dangos eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym wedi tynnu sylw at eu cyfranogiad yn ein hadroddiad ymgynghori Darganfod Eich Rôl 2.0 ac yn rhoi adborth iddynt o ran sut y gwnaethant helpu i lunio ein gwaith. Hyd yn oed os nad yw’ch prosiect yn cael ei ariannu, mae rheoli disgwyliadau yn helpu i gynnal ymddiriedaeth. Os yn llwyddiannus, dathlu eu cyfranogiad a'u cynnwys wrth rannu canfyddiadau gyda'r gymuned ehangach.
Os hoffech gynnwys grwpiau cymunedol wrth i chi datblygu’ch ymchwil, ac yr hoffech drafod sut y gallwn eich cefnogi chi, cysylltwch â ni yma research-involvement@wales.nhs.uk.