A headshot of nurse Emma in her uniform.

Pŵer ymchwil a arweinir gan nyrsys

29 Tachwedd

Gan dorri tir newydd ym maes ymchwil a arweinir gan nyrsys, mae’r Prif Ymchwilydd Emma Williams wedi cyhoeddi astudiaeth arloesol ar yr effaith y mae therapi CAR-T yn ei chael ar ansawdd bywyd – yr astudiaeth gyntaf yn y DU i’w chyhoeddi yn y maes hwn a’r gyntaf i’w chyhoeddi gan Brif Ymchwilydd sy’n nyrs.

Mae therapi CAR-T, math arloesol o driniaeth, yn cynnwys addasu celloedd-T y claf ei hun (math o gelloedd gwyn y gwaed) i ymladd canser yn fwy effeithiol. Mae’r celloedd hyn yn cael eu casglu, eu hail-lunio’n enetig i dargedu celloedd canser ac yna eu trwytho yn ôl i gorff y claf lle maent yn ymladd y canser.

Cafodd yr astudiaeth, o’r enw CART QUOL, ei lansio pan oedd y pandemig ar ei anterth. Roedd triniaeth CAR-T yn newydd i Gaerdydd ar y pryd ac nid oedd unrhyw ddealltwriaeth o sgîl-effeithiau hirdymor nac ansawdd bywyd y grŵp hwn o gleifion. Parhaodd y driniaeth a’r gwasanaeth hwn i gleifion yn ystod COVID-19 pan oeddent yn ofni y byddai eu clefyd yn eu llethu.

Mae papur Emma, sy’n dwyn y teitl Ymchwilio i ansawdd bywyd cyffredinol cleifion â lymffoma celloedd B mawr gwasgaredig sy’n cael therapi CAR celloedd-T, yn rhoi dealltwriaeth werthfawr o’r ffordd y gwnaeth cleifion fynd i’r afael â heriau corfforol ac emosiynol y driniaeth arloesol hon, a oedd yn sail ar gyfer argymhellion ar sut i wella eu gofal.

Dywedodd Emma:

“Roedd y cleifion yn wynebu cyfnod eithriadol o heriol ac roedd pob asesiad ansawdd bywyd a gyflawnwyd yn nodi eu taith, a oedd yn hanfodol ac yr oedd angen ei wneud, yn fy marn i, i weld y sgîl-effeithiau hirdymor ac ansawdd bywyd y grŵp hwn o gleifion.”

Mae Emma Williams, Rheolwr yr Uned Treialon Haematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn paratoi’r ffordd i nyrsys gymryd mwy o ran mewn ymchwil a chyhoeddi eu hastudiaethau eu hunain. Fel un o’r ychydig Brif Ymchwilwyr sy’n nyrsys yng Nghymru, mae ei gallu i gyfuno arbenigedd clinigol â meddylfryd ymchwil wedi’i galluogi i weithio ar astudiaethau sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar ofal cleifion.

Pan ymunodd Emma â’r tîm treialon clinigol yng Nghaerdydd fel Rheolwr yr Uned Treialon Haematoleg, dim ond tri aelod oedd yn y tîm. Trwy ei harweinyddiaeth, mae hi wedi helpu i dyfu’r tîm hwnnw i 18 aelod o staff penodedig, yn amrywio o nyrsys ymchwil, rheolwr gweinyddol, rheolwyr data a chynorthwywyr gweinyddol, gan greu amgylchedd ymchwil ffyniannus sydd wedi’i adeiladu ar gydweithio ac arloesi. Ei nod oedd creu cydbwysedd rhwng prosiectau gwella gwasanaethau ac astudiaethau ymchwil a arweinir gan nyrsys. Dywedodd Emma:

“Mae ymchwil yn ymdrech tîm. Mae gan bawb rywbeth gwerthfawr i’w gyfrannu ac mae’n bwysig creu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i rannu eu syniadau.

“Mae’n debyg bod gennym tua 60 i 65 o astudiaethau gweithredol nawr ers i mi gychwyn yn y swydd ym mis Gorffennaf 2015 hyd at 2024.”

Fel nyrsys, maent yn gweithio ar nifer o astudiaethau arsylwadol sy’n edrych ar faterion fel ffrwythlondeb ar ôl cemotherapi a chanlyniadau cleifion sy’n cael eu trin yn y canolfannau hyn yn hytrach na mewn lleoliadau gofal iechyd safonol, neu astudiaethau sy’n edrych ar anghenion heb eu diwallu fel cyn-adsefydlu mewn cleifion â Lewcemia Myeloid Acíwt (AML) gydag astudiaeth PROPEL.

Mae Emma yn credu y gall ymchwil gan nyrsys ychwanegu dyfnder at y profiad ymchwil a chyflwyno persbectif gwahanol sy’n ategu gwaith meddygon.

“Mae nyrsys yn wydn iawn ac, yn aml, byddan nhw’n aberthu eu hanghenion nhw i sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu.

Rydyn ni bob amser ar flaen y gad ym maes gofal ac rwy’n teimlo bod angen taer i fwy o’n harsylwadau a’n deialogau gyda chleifion gael eu nodi.”

Mae prosiect BLAENORIAETH, wedi’i gomisiynu gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru, y  Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gwneud yn union hynny drwy ddatblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar awgrymiadau nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gynyddu capasiti a gallu i gyflawni a defnyddio ymchwil ym maes nyrsio.

Mae cydgynhyrchu yn ganolog i brosiect BLAENORIAETH, sydd erbyn hyn, yn dechrau ar ei gyfnod olaf gyda gweithdai Rheithgor Dinasyddion yn y flwyddyn newydd. Rydym yn gwahodd nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yng Nghymru i fyfyrio ar ganfyddiadau ac argymell camau gweithredu ar gyfer y cynllun. Cofrestrwch ar gyfer gweithdy’r Rheithgor Dinasyddion heddiw.