Rheolwr Prosiect - Y Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd

Mae'r NCRN yn Ganolfan Gynaliadwy newydd a ariennir drwy'r buddsoddiad diweddar o £48m mewn ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'r NCRN yn unigryw am mai hon yw'r unig ganolfan i dderbyn cyllid ychwanegol drwy bartneriaeth â'r British Heart Foundation a'i nod yw hwyluso datblygiad gwaith rhyngddisgyblaethol ar draws sefydliadau addysg uwch/byrddau iechyd prifysgol o berthnasedd clinigol trosiadol. Mae'r Rhwydwaith yn gwasanaethu Cymru gyfan ac mae'n ymgorffori cydweithrediad rhwng ymchwilwyr, clinigwyr, cleifion, y cyhoedd, prifysgolion a byrddau iechyd i gynyddu màs critigol a rhagoriaeth mewn ymchwil gardiofasgwlaidd.

Mae'r swydd, a leolir ym Mhrifysgol Abertawe, yn cwmpasu amrywiaeth eang o weithgareddau'r Rhwydwaith, gan gynnwys cydlynu cynlluniau prosiect, ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid, monitro ac adrodd, dadansoddi data a gweinyddu ar adegau gwahanol yn y prosiect: gweithredu, cynllunio, cyflawni, cau’r prosiect a chynaliadwyedd y prosiect

Yn benodol, byddwch yn gweithio'n agos gyda Thîm Arweinyddiaeth, Prif Ymchwilwyr Themâu ac Arweinwyr Strategaeth y Rhwydwaith, gan ymgysylltu'n helaeth ar draws y dirwedd ymchwil gardiofasgwlaidd a phartneriaethau clinigol a strategol yng Nghymru. Drwy eich cryfderau o ran datblygu cynigion, syntheseiddio ymchwil a mapio gweithgareddau, byddwch yn datblygu ac yn rhoi ar waith bortffolio o brosiectau a ariennir yn allanol sy'n cynyddu galluedd a galluoedd ymchwil y Rhwydwaith. Gan weithio gyda thimau ymchwil rhyngddisgyblaethol, byddwch yn strategeiddio cynigion sy'n cydweddu â chyfleoedd cyllid o bwys, yn enwedig y rhai hynny sy'n gofyn am amrywiaeth o arbenigedd er mwyn datblygu ymchwil (e.e. datblygu consortia). Byddwch yn ymgysylltu ag arianwyr ac yn darparu arweiniad i randdeiliaid y Rhwydwaith ynghylch sut i fframio a llunio cwestiynau ymchwil yn briodol er mwyn gwella cystadleurwydd ceisiadau am gyllid.

Contract type: Contract cyfyngedig
Hours: Llawn amser
Salary: £46,735 i £55,755 y flwyddyn
Lleoliad: Campws Singleton, Abertawe
Job reference:
SU00941
Closing date: