llun portread o Aron

Stori Aron: sut rwy’n trawsnewid ymchwil iechyd yng Nghymru fel myfyriwr

Mae Aron Evans yn 16 mlwydd oed ac yn byw yng ngogledd Caerdydd. Ers mis Ionawr 2021, mae wedi helpu ymchwilwyr i gynllunio’r astudiaethau y maen nhw’n dymuno’u cynnal yng Nghymru yn aelod o grŵp ieuenctid sy’n trafod materion yn ymwneud ag astudiaethau iechyd sydd ar ddod gydag ymchwilwyr.

---

“Clywais am y grŵp ALPHA oherwydd fy mod i’n dymuno gwirfoddoli i helpu gyda fy nghais prifysgol gan fy mod i’n astudio ar gyfer Lefel A ar hyn o bryd. Fe wnes i ychydig o ymchwil ar wefan Gwirfoddoli Cymru ac roedd hwn yn edrych ychydig yn wahanol. Roeddwn i’n hoffi’r syniad o ddysgu ychydig mwy am iechyd a sut caiff ymchwil ei wneud.

“Pan ymunais â’r grŵp, doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl ac roeddwn i wedi drysu braidd ynghylch pa ran y gallwn ei chwarae. Roeddwn i’n credu bod ymchwil dim ond yn cael ei wneud gan ymchwilwyr ac na all bobl eraill gymryd rhan. Ond mae’n syml iawn. Rydym yn cwrdd ar-lein unwaith y mis ac yn sgwrsio gyda’r ymchwilwyr am eu gwaith.

“Un cyfarfod sy’n aros yn fy nghof yw pan wnaethom ni siarad am astudiaeth ar rieni’n taro eu plant. Nid yw’n anghyfreithlon i rieni yng Nghymru daro plant, a oedd yn syndod i mi. Gofynnwyd i ni roi adborth i’r ymchwilwyr o safbwynt ifancach ar gyflwyno cyfraith newydd i’w hatal. Dywedais i os byddai’n anghyfreithlon, byddai rhieni yn meddwl dwywaith cyn ei wneud.

“Pan fydd un ohonom yn codi pwynt da, mae’r ymchwilwyr wir yn ei ystyried. Byddan nhw’n gofyn ein barn ar beth ellid ei wneud i wella’r astudiaeth a sut gallai’r astudiaeth gyrraedd mwy o bobl. Mae’n dod yn sgwrs ac mae’r pynciau iechyd wir yn ddiddorol.

“Rwy’n credu ei fod yn beth da i bawb sy’n rhan ohono. Mae pob un ohonom yn cael rhannu ein profiadau ein hunain â’r ymchwilwyr ond rydym hefyd yn cael clywed safbwyntiau aelodau eraill ALPHA. Mae cefndir pawb yn wahanol, felly mae llawer o brofiadau y mae angen i ymchwilwyr eu hystyried.

“Rydym wedi bod yn rhan o lawer o gamau o’r ymchwil felly rwyf i wedi gweld sut mae’r astudiaethau yn datblygu dros amser oherwydd ein hadborth. Mae’n rhoi’r teimlad eich bod wir yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwella’r ymchwil. Dim ond un cyfarfod bob mis sydd, felly nid yw’n cymryd gormod o amser ac mae’n teimlo fel amser gwerthfawr. Rwy’n cael llawer allan ohono.

“Mae’n sicr bod gan bobl fy oedran i fwy o ddiddordeb mewn ymchwil iechyd oherwydd y pandemig. Mae’r ymchwil yn teimlo’n fwy perthnasol i’n bywydau ni nawr. Efallai roedd ymchwil arfer teimlo’n rhy gymhleth neu’n ddiflas, ond rwy’n credu byddai mwy o bobl eisiau helpu ymchwilwyr nawr os bydden nhw’n gwybod ei fod yn opsiwn. Mae llawer o ymchwil iechyd yn berthnasol iawn.”

---

Mae ALPHA (Cyngor yn Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd) yn grŵp cynnwys y cyhoedd o bobl rhwng 14 a 25 oed ac mae'n cael ei arwain gan DECIPHer, sy'n rhan o gymuned a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dysgwch fwy am ALPHA a sut i ymuno.  

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y straeon, cyfleoedd a digwyddiadau ymchwil diweddaraf o Gymru.