Adolygiad cyflym o’r hyn sy’n hysbys ynglŷn ag effeithiolrwydd strategaethau i fynd i’r afael ag ymddygiadau heriol ac aflonyddol myfyrwyr mewn ystafelloedd dosbarth

Cefndir

Mae’r ymchwil hon yn edrych ar yr effaith y cafodd y pandemig COVID-19, a mesurau a ddefnyddiwyd i geisio’i reoli, ar lesiant seicolegol plant a’r glasoed. Mae hyn yn sgil clywed oddi wrth athrawon bod yna duedd gynyddol mewn ymddygiad heriol ac aflonyddol ymhlith plant ysgol. Bu ymchwilwyr yn cynnal adolygiad cyflym i werthuso effeithiolrwydd ymyriadau a roddir ar waith i fynd i’r afael ag ymddygiadau heriol, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, presenoldeb/ triwantiaeth a gwahardd/  atal dros dro, mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach.

Nod

Nod yr ymchwilwyr oedd archwilio effeithiolrwydd ymyriadau a ddefnyddir i fynd i’r afael ag ymddygiad aflonyddol a heriol mewn lleoliadau addysgol yn ystod y pandemig, mewn ymdrech i ddarparu sail ar gyfer datrysiadau i gefnogi athrawon ac ysgolion i fynd i’r afael â’r broblem. Fodd bynnag, oherwydd diffyg tystiolaeth sydd wedi’i seilio’n uniongyrchol ar effaith y pandemig, ehangwyd y chwiliad am lenyddiaeth sy’n bodoli i gynnwys astudiaethau o’r cyfnodau cyn y pandemig ac yn ystod y pandemig, o 2015 i 2022.

Dull

Nodwyd 14 astudiaeth ynglŷn ag ymyriadau yn yr ysgol. O’r rhain roedd 10 yn hap-dreialon wedi’u rheoli ac roedd 4 yn dreialon wedi’u rheoli nad oedden nhw’n hap-dreialon.

Canlyniadau

Nid oedd yna unrhyw dystiolaeth gref o’r astudiaethau diweddar wedi’u rheoli bod ymyriadau ysgol-eang neu hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr yn arwain at welliannau tymor hir mewn ymddygiad.

Mae yna dystiolaeth gymedrol bod rhai ymyriadau ysgol-eang yn gallu helpu i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y tymor byr, ond mae’n aneglur beth sy’n gweithio ac i bwy.

Mae yna dystiolaeth sy’n awgrymu nad yw ymyriadau hyfforddiant/ addysgol ysgol-eang yn effeithio ar bresenoldeb. Fodd bynnag, roedd sail 5 o’r 7 astudiaeth mewn lleoliadau ysgolion cynradd. Felly mae yna ddiffyg tystiolaeth ynglŷn â grwpiau oedran ysgol uwchradd a hŷn. 

Goblygiadau i Bolisi

Mae angen rhagor o dystiolaeth i ddeall y pethau sy’n achosi gwahardd ac atal dros dro. Mae yna ryw ychydig o dystiolaeth i awgrymu bod ymyriadau ysgol-eang yn gweithio i leihau parhad ac amlder cyfnodau gwahardd pan wneir hyn yn drylwyr. Byddai angen dadansoddi effaith hyn ymhellach.

Mae’r hyder mewn darganfyddiadau ynglŷn â phresenoldeb/ triwantiaeth yn gymedrol, ac mae hyder mewn darganfyddiadau ynglŷn ag aflonyddu rhywiol a gwahardd/ atal dros dro mewn ysgolion yn isel.

Darllenwch yr adroddiad llawn neu weld y wybodlen

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00037