
Sut y mae cydweithredu’n hyrwyddo ymchwil a gofal clinigol ym maes canser pediatrig
Bydd y sesiwn hon, sy’n cael ei rhedeg gan y Sefydliad Ymchwil Canser Cenedlaethol ar y cyd â’r Bartneriaeth Ymchwil Canser Ryngwladol, yn edrych ar ganserau pediatrig ac yn dwyn sylw at sut y mae arianwyr ymchwil canser wrthi’n cydweithredu ar hyn o bryd i hyrwyddo’r maes ymchwil a gofal clinigol hwn yn rhyngwladol. Bydd siaradwyr yn trafod ffyrdd i ysgogi cefnogaeth ar gyfer mwy o gydweithredu rhyngwladol i sicrhau y buddsoddir cymaint â phosibl mewn ariannu hyn. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gan y mynychwyr ddealltwriaeth well o sut y mae’r model cydweithredol yn gweithio a beth y gellid ei wneud i’w wella mwy fyth.
Cadeiryddion:
- Dr Julia Chisholm, Cadeirydd Grŵp Plant NCRI, y DU
- Ms Amy Weinstein, Cyfarwyddwr Ymchwil yn Sefydliad Tiwmor Ymennydd yr Unol Daleithiau, UDA
Siaradwyr:
- Dr Vickie Buenger, Llywydd yng Nghynghrair yr Unol Daleithiau ar gyfer Canser Plant, UDA
- Yr Athro Gilles Vassal, Athro Oncoleg Prifysgol Paris-Sud, Ffrainc
Rhad ac am ddim
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan trefnwyr y digwyddiad.