Taith nyrs i faes ymchwil: Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil
Trefnwyd stondin arddangos gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am y tro cyntaf ar gyfer Cynhadledd Ymchwil Nyrsio Ryngwladol RCN 2022 ym mis Medi, gan fynychu’r gynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf a gynhaliwyd ers 2019. Daeth ymchwilwyr nyrsio, nyrsys rhyngwladol, nyrsys ymchwil, myfyrwyr nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd ynghyd fel rhan o'r digwyddiad i ddathlu ymchwil a'i rôl hanfodol wrth fynd i'r afael ag anghenion y system gofal iechyd.
I gyd-fynd â thema’r gynhadledd eleni, ‘Ymchwil nyrsio: edrych ymlaen’, dyna'n union a wnaeth stondin Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; rhoi cyfle i bawb a oedd yn bresennol i ofyn am gymorth a chyngor ar ddechrau taith ymchwil yng Nghymru.
‘Arloesi a gwella mewn maes a arweinir gan nyrsys yng Nghymru’
Yn eu cyflwyniad, gwnaeth Jayne Goodwin, Nicola Ivins, Vianne Britten a Mandy Edwards drafod rolau a chyfrifoldebau allweddol nyrs ymchwil, yn ogystal â sut mae ymchwil nyrsio yn effeithio’n gadarnhaol ar ofal cleifion.
Mae’r cyflwyniad yn amlinellu cyfleoedd i nyrsys ymchwil yn y Ganolfan Treialon Ymchwil, ac yn dangos gwerth nyrsys ymchwil mewn cyfleusterau ymchwil clinigol a rolau nyrsio mewn modelau arloesol sy'n cefnogi ymchwilwyr treialon clinigol.
Taith i faes ymchwil
Mae Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn rhannu ei thaith i ymchwil.
Dechreuodd Jayne ei gyrfa ymchwil tua diwedd y 90au, lle daeth yn gyfarwydd â datblygiad ymchwil HIV. Daeth i gysylltiad uniongyrchol â sut roedd triniaethau newydd yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i gefnogi symptomau ac ymestyn bywydau'r rhai sy'n byw gyda'r feirws.
Dim ond pan gododd cyfleoedd i gefnogi treialon clinigol mewn oncoleg, gan weithio mewn canolfan ymchwil yng ngogledd Cymru, y daeth ei diddordeb mewn ymchwil yn rhan o’i rôl glinigol.
“I gleifion canser, mae treialon clinigol yn rhoi’r cyfle i gleifion roi cynnig ar driniaethau newydd i wella eu symptomau ac ansawdd eu bywyd gobeithio, yn ogystal â helpu’r rhai a allai gael diagnosis yn y dyfodol. Gwnaeth fy mhrofiad o weithio gyda’r cleifion hyn danio fy angerdd i weithio ym maes ymchwil yn llawn amser.”
Aeth Jayne ymlaen i weithio’n llawn amser yn y lleoliad darparu ymchwil glinigol o’r flwyddyn 2000, gan weithio mewn rolau ymchwil nyrsio ac arwain amrywiol, gan gefnogi datblygiad parhaus a gwella cymhwysedd a gallu ymchwil yng Nghymru.
Roedd gan Jayne y cyngor hwn i nyrsys sy’n bwriadu mynd i faes ymchwil: “Yn gyntaf, peidiwch â gadael i’r hyn rydych yn tybio y mae ‘ymchwil’ yn ei olygu eich dychryn. Mae llawer o gamsyniadau bod rolau ymchwil yn weinyddol iawn. Byddwn i’n annog myfyrwyr o broffesiynau meddygol, proffesiynau nyrsio a phroffesiynau perthynol i iechyd i chwilio am brofiadau, megis lleoliad lle maent yn mynd ati i gyflwyno treialon clinigol a dysgu drostynt eu hunain beth mae hyn yn ei olygu i’w hymarfer clinigol a’u cleifion.
“Mae’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae nyrs neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill mewn rôl ymchwil glinigol yn eu cynnig wrth gyflwyno astudiaeth yn dangos eu gwerth. Mae hyn yn hollbwysig, ac yn aml gall fod y gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant prosiect ymchwil clinigol.
“Yn bwysicach byth, gall hefyd fod y gwahaniaeth rhwng claf yn cael cynnig cyfle i ystyried triniaeth ymchwil neu beidio. Yn y pen draw, heb bobl go iawn a chleifion go iawn yn cymryd rhan mewn ymchwil - ni allwn wella ein hymarfer clinigol na gwella triniaethau a gofal ar gyfer ein cyhoedd.”
Hyfforddi nyrsys ymchwil
Fel rhan o’n hymrwymiad i wneud ymchwil yn rhan o rôl pawb yn y GIG, mae ein cyllid yn cefnogi bron pob aelod o staff ledled Cymru yn uniongyrchol i gefnogi’r gwaith o gyflawni ymchwil, gan gynnwys nyrsys, bydwragedd, swyddogion ymchwil clinigol, cydgysylltwyr astudiaethau a gweithwyr cymorth iechyd a gofal.
Dull Cymru’n Un
Mae Dull Cymru’n Un, sef dull cyflenwi ymchwil ym mhob rhan o’r GIG, wedi dangos ei llwyddiant wrth i sefydliadau weithio mewn partneriaeth i sicrhau gwasanaethau effeithiol a symlach. Gall y dull cyflenwi hwn ddarparu un safle arweiniol i Gymru sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil unwaith, fel costau neu adolygiad contractiol. O ganlyniad, mae GIG Cymru yn darparu gwasanaeth rhagweithiol ac ymatebol sy’n cyflymu’r broses o sefydlu a darparu astudiaethau gan wneud gwahaniaeth i boblogaeth Cymru.
O ran dyfodol nyrsys ymchwil ym maes cyflenwi ymchwil yng Nghymru, dywedodd Jayne:
“Rwy’n credu bod gan nyrsys ymchwil rôl a sgiliau arbenigol. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygiad ein gweithlu wrth i ni barhau i dyfu ac esblygu yng nghyd-destun strategaeth y DU ar gyfer cyflenwi ymchwil glinigol.
“Rwy’n awyddus i gydnabod nyrsys ymchwil a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ac rwyf wedi ymrwymo i ddangos eu gwerth wrth barhau i wella gofal cleifion yng Nghymru.”
Er mwyn helpu nyrsys sy'n awyddus i ddechrau ar eu taith i’r byd ymchwil, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu hyfforddiant rheolaidd.
DIWEDD