Cyrsiau hyfforddi
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel, seiliedig ar angen ledled Cymru i’r gymuned ymchwil. Mae ein hyfforddiant yn galluogi’r unigolyn i gael dewis o naill ai hyfforddiant wyneb yn wyneb neu e-ddysgu, gydag adnoddau ar gael i wella gwybodaeth, sgiliau a phrofiad.
Mae cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim i ymchwilwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol ac aelodau eraill o dimau ymchwil y mae’r GIG neu brifysgol yn eu cyflogi, neu’r rheini sy’n ymwneud â datblygu a chyflenwi astudiaethau ymchwil. Mae ein cyrsiau hyfforddi hefyd ar gael i aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cofrestru i gael eu cynnwys mewn ymchwil.
Cyrsiau yn y cnawd: Cyrsiau y mae hwyluswyr yn eu harwain ydy’r rhain, wedi’u cyflenwi’n rhithiol neu yn y cnawd ar ddyddiadau/ amseroedd penodol. I fynychu un o’r cyrsiau hyn, mae angen ichi gofrestru ar dudalen y cwrs. Cofiwch ddarllen y polisi methu â mynychu a chanslo cyn cofrestru ar gyfer y cwrs.
Cyrsiau ar gais: cyrsiau e-ddysgu ydy’r rhain, dan arweiniad y dysgwr, a gellir eu cwblhau unrhyw amser ar gais. Yn gyffredinol, nid oes angen ichi gofrestru ar gyfer y cyrsiau hyn, ond os ydych chi eisiau cael tystysgrif am gwblhau’r cwrs, fe fydd angen ichi gwblhau eich manylion unwaith rydych chi wedi gorffen y cwrs i wneud cais am un.
Ar ddod yn fuan: cyrsiau ydy’r rhain nad oes yna ddyddiad cwrs ar hyn o bryd neu sydd ar y gweill. I gael rhagor o wybodaeth am pryd y mae’r cyrsiau hyn ar gael, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i dderbyn ein bwletin wythnosol