Yr Athro Tamas Szakmany
Mae’r Athro Szakmany yn Ymgynghorydd Anesthesia a Gofal Dwys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac yn Uwch-ddarlithydd mewn Gofal Dwys ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n un o arweinwyr clinigol Rhwydwaith Gofal Critigol a Thrawma Cymru. Graddiodd Tamas ym Mhrifysgol Pecs, Hwngari, ac arhosodd yno i ennill ei Doethuriaeth mewn Gofal Critigol. Symudodd i’r DU yn 2004 ac i Gymru yn 2008. Ei brif ddiddordebau ymchwil yw monitro ac addasu ymateb llidiol mewn sepsis ac ar ôl llawdriniaeth fawr. Bu’n gydlynydd cenedlaethol y DU o Dreial ISOS ac yn arweinydd clwstwr Cymru ar gyfer astudiaeth EPOCH. Mae wrthi’n recriwtio cleifion i sawl treial clinigol amlawdriniaethol ac, yn ddiweddar, cafodd ei benodi’n Aelod o Fwrdd Rhwydwaith y Treialon Clinigol Meddygaeth Amlawdriniaethol.
Mae Tamas wedi bod yn frwd dros weithio gyda myfyrwyr meddygol erioed, i’w helpu nhw i wireddu’u potensial a’u cynnwys nhw mewn prosiectau ymchwil fel yr astudiaeth flynyddol mynychder mewn cyfnod penodol i ddarganfod beth yw baich gwirioneddol sepsis ar wardiau cyffredinol yng Nghymru.
Fel Ymgynghorydd mewn Uned Gofal Dwys, mae ganddo gryn ddiddordeb mewn gwybod pam fod cleifion yn datblygu methiant organau lluosog am gyfnod maith ac mae’n gobeithio y bydd ymchwil drosiadol gyda’r grŵp imiwnoleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn darparu opsiynau newydd yn eu gofal.
Yn y newyddion:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Cymru’n chwarae rhan mewn astudiaeth geneteg arloesol yn y frwydr yn erbyn COVID-19 (Mai 2020)