Staff y GIG gyda chlustffonau VR a therapi

"Os yw'r staff yn hapus, mae'r cleifion yn hapus!" - Therapi rhithwir yn helpu staff y GIG i gynnal lles emosiynol

Mae ymchwilwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn archwilio a allai therapi realiti rhithwir (sef ‘VR’) fod o fudd wrth helpu staff i wella a chynnal eu lles emosiynol.

Gall staff gael mynediad at glustffonau VR ar gais ac fe'u harweinir i ymarfer gwahanol raglenni ymwybyddiaeth ofalgar.  Dangosodd canlyniadau rhagarweiniol gan 24 o gyfranogwyr ostyngiadau sylweddol yn y sgorau ôl-ymyrraeth ar gyfer anhunedd, iselder, gorbryder a straen.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig technoleg realiti rhithwir i'w staff yn ystod y pandemig. 

Nawr mae Dr Clare Wright, Arweinydd Strategol Lles a Phrofiad Gweithwyr a'i thîm yn gweithio ar astudiaeth ymchwil i ddarganfod effeithiolrwydd ymyriadau ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio trwy VR, wrth wella iselder, pryder, straen, cwsg ac ansawdd bywyd proffesiynol.

Dywedodd Dr Wright eu bod yn gweld staff dan straen enfawr yn enwedig yn ystod y pandemig a'r cyfnod clo.  

Meddai: "Pan darodd y pandemig, roedd llawer o'n staff ar eu gliniau, gyda lles emosiynol gwael iawn.   Mae Cwm Taf Morgannwg yn cwmpasu un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn gymdeithasol yng Nghymru, roeddem yn gwybod bod COVID yn mynd i fod yn heriol iawn i'n staff, ac roedd angen i ni wneud rhywbeth ataliol.

"Rhoddir clustffonau VR i staff a gallant ddilyn y gweithgareddau ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar ar y clustffonau gartref am wyth wythnos.

"Bydden nhw'n cael moment i ddianc i realiti hollol wahanol - traeth neu o dan y môr, a oedd yn eu helpu i ymlacio a dadflino ar ôl diwrnod heriol.

Yn siarad yng Nghynhadledd Ymchwil a Datblygu Cwm Taf Morgannwg 2023, dywedodd y tîm astudio: "Canfu ein staff fod VR yn ffordd dda iawn o ymlacio ac roeddent yn adrodd llai o orbryder a gwell cwsg.

"Mae ymchwil yn dangos, pan fydd staff yn iach, bod cleifion yn cael canlyniadau gwell.  Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi staff a'u helpu i aros yn iach gan mai dyna'r peth iawn i'w wneud."