Zoe and her team at the awards ceremony sat around a table holding their drinks

Tim ymchwil Caerdydd a’r Fro ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Tïm y Flwyddyn

28 Hydref

Cafodd tïm cyflawni ymchwil o Gymru, wedi ei sefydlu yn ystod y pandemig yn Ysbyty Prifysgol Llandochau, eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Tim y Flwyddyn yng Ngwobrau Nursing Times, sydd yn dathlu llwyddiant nyrsus o bob rhan o’r DU.

Cafodd y tïm ei sefydlu gyda’r bwriad o gyfrannu tuag at wybodaeth bydeang ynghylch Cofid-19, ac i wneud yn siwr bod gan gleifion yn yr ysbyty fynediad at dreialon clinigol a allai achub bywydau. Ar ddechrau’r pandemig, yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn unig yr oedd astudiaethau COFID-19 yn digwydd o dan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Dyma eiriau Uwch Nyrs Ymchwil a fu’n helpu i sefydlu’r tïm, sef Zoe Hilton: “Fe wnaethom weithio’n galed i adeiladu tïm hollol newydd, tïm cryf a fyddai’n rhoi i bob claf a ddeuai i mewn i’r ysbyty yn dioddef o COFID-19 y cyfle i dderbyn triniaeth a allai achub eu bywyd a bod yn rhan o ymchwil fyddai yn ein galluogi i ddeall y meddyginiaethau a’r gofal gorau ar gyfer cleifion.

“Roedd yn frawychus ar y cychwyn gan ein bod yng nghanol pandemig bydeang, ond fe wyddem bod yn rhaid i ni ganfod yr amser, yr adnoddau a chanolfan mewn byr amser. Roedd yn heriol iawn ond trwy weithio fel tïm fe lwyddwyd i recriwtio ar gyfer yr astudiaethau o fewn wythnos.”

Fe wnaeth deg aelod y tïm, yn cynnwys nyrsus ymchwil a swyddogion ymchwil, recriwtio bron 130 o gleifion i’r treial Adfer, astudiaeth hanfodol i ganfod os y gallai cyffuriau presennol neu newydd helpu cleifion yn yr ysbyty wedi i COFID-19 gael ei gadarnhau arnynt. Darganfu’r tïm nifer o driniaethau ar gyfer y feirws gyda chymorth tïm Llandochau, yn cynnwys steroid rhesymol ei bris (dexamethasone) oedd yn lleihau nifer y marwolaethau hyd at draean yn y rhai oedd â chymhlethdodau anadlu dwys.

Ychwanegodd Zoe, a enwebodd y tim ar gyfer y wobr hon, “Roedd yn amser emosiynol a blinedig iawn ond mae’r tïm bob amser wedi mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylid ganddynt. Mae ymdrechion yr aelodau wedi arwain at dïm darparu ymchwil parhaol, tyfadwy a brwdfrydig sydd wedi ysbrydoli grŵp newydd cyfan o glinigwyr i ymgymryd ag ymchwil Clinigol.

“ Mae bod yr unig dim o Gymru i gael ei gydnabod yn gamp ynddo’i hunan ac mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o’r tim hwnnw. Buaswn yn hoffi rhoi diolch anferth iddynt, oddi wrthyf i ac oddi wrth y cleifion y bu iddynt eu hachub.”

Mewn digwyddiad neithiwr (27 Hydref) yng Ngwesty Grosvenor House, Llundain, roedd y seremoni yn dwyn y gymuned nyrsio ynghŷd i amlygu’r talent mwyaf disglaer yn y proffesiwn a chydnabod y rhai sy’n gwneud nyrsio yn flaengar a chynhwysfawr gyda’r sylw cyntaf bob amser i’r claf.

Mae categori Tïm y Flwyddyn yn cydnabod timau sydd wedi cyflawni prosiectau yn tanlinellu gwerth gweithio mewn tïm ar gyfer gwella gwasanaeth.

Dyma eiriau Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwraig Cefnogi a Chyflawni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd yn arolygu holl ymchwil Cofid-19 yng Ngymru:  “Mae timau ymchwil fel Tïm Cyflawni Ysbyty Prifysgol Llandochau   wedi bod yn amrhisiadwy dros y 18 mis diwethaf yn sefydlu ac yn cyflawni ymchwil hanfodol Cofid-19. Fydden ni ddim yn y lle rydym heddiw onibai am eu hymdrechion eithriadol hwy i sicrhau bod gan gleifion ar draws pob rhan o’r GIG fynediad at yr ymchwil oedd ar y gweill. Llongyfarchiadau i Zoe a’r tïm, maent wedi cyflawni camp anhygoel” 

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Fe hoffem fynegi llongyfarchiadau a diolch mawr i’r tïm yn Ysbyty Prifysgol Llandochau am eu gwaith anhygoel yn ystod y pandemig.”

“Mae’n eithriadol bwysig cydnabod ymdrechion diflino staff ymchwil ledled Cymru ac rydym yn hynod falch ohonynt.”

Am ragor o wybodaeth ar astudiaethau ymchwil COFID-19, ewch i’n tudalennau gwe COFID-19