Trafod pwysigrwydd arferion ymchwil gynhwysol mewn cynhadledd flynyddol
24 Hydref
Daeth ymchwilwyr ac eiriolwyr dylanwadol at ei gilydd yn negfed cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i drafod pwysigrwydd cynhwysiant mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, a'r hyn sydd angen ei newid i greu ymchwil fwy teg ac effeithiol yn y dyfodol.
Dan gadeiryddiaeth yr Athro Roiyah Saltus, Athro Cymdeithaseg (Arloesi ac Ymgysylltu), Prifysgol De Cymru, roedd y drafodaeth fywiog a diddorol yn cynnwys pedwar siaradwr o bob cwr o'r DU wnaeth sôn am eu profiadau personol a phroffesiynol o arferion cynhwysol.
Mae Dr Sofia Gameiro yn Ddarllenydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, ac yn gyd-arweinydd Ymchwil Iechyd Menywod Cymru. Mae hi wedi cynnal ymchwil ym maes iechyd menywod ers dros 15 mlynedd, gan ganolbwyntio ar godi lleisiau grwpiau a danwasanaethir, trwy ymchwil sylfaenol a datblygiad methodolegol. Trafododd yr angen i ddadwahanu rhyw a rhywedd mewn ymchwil, gan nodi mai dim ond un o bob pedwar treial brechlyn COVID-19 a adroddodd ganlyniadau ar gyfer cleifion gwrywaidd a benywaidd.
Aeth Dr Gameiro ymlaen, "Mae angen i ni wneud yn siŵr y cydnabyddir y gall salwch edrych yn wahanol a gwaethygu yn wahanol mewn menywod a dynion", gan ddefnyddio'r enghraifft o glefyd y galon, sy'n gallu ymddangos yn wahanol iawn mewn gwahanol rywiau. O ganlyniad i ymdrechion i gydnabod ac archwilio'r gwahaniaethau hyn, "gallwn nawr wneud diagnosis gwell o fenywod mewn ffordd fwy prydlon."
Yn y dyfodol, dywedodd y byddai'n hoffi gweld mwy o gefnogaeth i bobl drawsryweddol ac anneuaidd o fewn llwybrau fel sgrinio canser a gofal menopos.
Nesaf oedd Alex Harrison, Ymgynghorydd Hygyrchedd yn AH Access. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad ym maes cydraddoldeb, mynediad a chynhwysiant anabledd, mae Alex yn darparu hyfforddiant ac yn ymgynghori i wella mynediad a chryfhau cynhwysiant pobl anabl mewn cymdeithas. Dywedodd,
Mae un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn anabl, ond rydych chi'n fwy tebygol o ddod yn anabl yn ystod eich bywyd na chael eich geni'n anabl.
Mae pobl anabl eisiau bod yn rhan o ymchwil a dod â syniadau o brofiad bywyd na fyddai eraill yn meddwl amdano. Mae anghofio eu cynnwys yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod wedi'u tanbrisio."
Adleisiwyd hyn gan Dr Vicky Shepherd, y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar "gymunedau nad yw'r system ymchwil yn cyfrif amdanynt ar hyn o bryd", yn enwedig y rhai sydd ag amhariad ar eu gallu i gydsynio. Fel Prif Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, mae hi wedi datblygu adnoddau a hyfforddiant i helpu i gyd-ddylunio treialon i gynnwys y poblogaethau hyn.
Dywedodd Dr Shepherd, "Roedd llai na 0.001% o dreialon COVID-19 yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, er eu bod yn cyfrif am bedair gwaith y gyfradd marwolaethau. Gall rhwystrau fel dibyniaeth ar dechnegau digidol neu anghysbell olygu llai o fynediad i'r poblogaethau critigol hyn. Gall yr hyfforddiant a'r adnoddau rydyn ni wedi'u datblygu helpu i lywio'r materion moesegol, cyfreithiol ac ymarferol i'w hystyried."
Yn olaf, myfyriodd Dr Mahendra Patel OBE, Cyfarwyddwr y Ganolfan Cydraddoldeb Ymchwil ym Mhrifysgol Rhydychen, ar effaith anwybyddu cymunedau penodol mewn ymchwil. Chwaraeodd Dr Patel ran flaenllaw yn PANORAMIC a PRINCIPLE, treialon COVID-19 nodedig a gydnabyddir am eu llwyddiant o ran recriwtio yn gynhwysol. Dywedodd,
Nid yw cynhwysiant yn ymwneud â chynrychiolaeth a recriwtio yn unig, ond perthnasoedd a pharch, cyd-greu gyda chymunedau eu hunain.
"Gwnaeth cynhwysiant PANORAMIC a PRINCIPLE yn decach, a hefyd yn wyddonol gryfach. Pan fydd ymchwil yn gynhwysol, mae'n arwain at ganlyniadau cyflymach, data cyfoethocach a chanlyniadau sy'n fwy cynrychioliadol o'r DU gyfan."
Darllenwch fwy am gynllun gweithredu cynhwysiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Gwyliwch rhaglen lawn y gynhadledd eto.