Dr Mark Willis

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG


Bywgraffiad

Graddiodd Mark Willis mewn meddygaeth o Brifysgol Caerdydd yn 2006, ar ôl cwblhau gradd BSc ryngosodol mewn patholeg gellog a molecwlaidd fel rhan o'i astudiaethau. Cyflawnodd hyfforddiant meddygol cyffredinol a niwrolegol arbenigol ar draws De Cymru, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu hefyd yn gweithio fel cymrawd addysgu clinigol (gan ennill tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg feddygol o Brifysgol Dundee) a chwblhau PhD o Brifysgol Caerdydd ym maes imiwnoleg MS, gyda chefnogaeth Cymrodoriaeth Hyfforddiant Ymchwil gan y Wellcome Trust.

Penodwyd Dr Willis yn niwrolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Ionawr 2022 ac mae'n parhau i fod â diddordeb mewn addysgu israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag ymchwil MS. Mae ganddo hefyd ddiddordeb clinigol ac ymchwil yng nghymhlethdodau niwrolegol imiwnotherapi canser newydd y dyfarnwyd Gwobr Amser Ymchwil y GIG iddo gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i’w ddatblygu ymhellach.


Darllen mwy am Mark a’u gwaith:

 

Enwau’r rheini sydd wedi derbyn Dyfarniadau Amser Ymchwil GIG 2022 wedi’u cyhoeddi

 


 

Sefydliad

Consultant Neurologist and Honorary Senior Research Fellow at Cardiff & Vale University Health Board