Y flwyddyn mewn rhifau - ein cymuned cynnwys y cyhoedd
Mae cyfraniadau'r cyhoedd yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio cyfeiriad ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Wrth i ni fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, rydym am ddathlu'r cyflawniadau a'r cyfraniadau amhrisiadwy y mae aelodau o'n cymuned cynnwys y cyhoedd wedi'u cyflwyno i ymchwil.
Ers mis Ebrill 2023, mae aelodau o'n cymuned cynnwys y cyhoedd wedi helpu i lunio mwy na 70 o astudiaethau ymchwil. O astudiaethau iechyd meddwl i fentrau iechyd menywod, mae eich lleisiau wedi helpu i arwain ymchwil ar draws ystod amrywiol o feysydd. Mae'r nifer anhygoel hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddol cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil ac ni allem fod yn fwy diolchgar i chi am rannu eich profiadau gyda ni ac ymchwilwyr yng Nghymru.
Dywedodd Emma Langley, Cydlynydd Cynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Drwy helpu i lunio ymchwil, rydych yn sicrhau bod astudiaethau wedi'u cynllunio i edrych ar anghenion a phryderon penodol y cyhoedd, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru. Mae eich cyfranogiad hefyd wedi helpu i gryfhau ac ehangu ein cymuned ymchwil sydd bellach â dros 550 o aelodau."
I bob aelod o'n cymuned ymroddedig, diolch yn fawr i chi. Mae eich ymroddiad a'ch brwdfrydedd yn ysbrydoledig ac edrychwn ymlaen at gychwyn ar lawer mwy o anturiaethau ymchwil cyffrous yn y blynyddoedd i ddod.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae ymchwil yn cael ei ddatblygu? Dewch yn aelod o'n cymuned cynnwys y cyhoedd i ddod o hyd i’r ateb.