Child doing school work at home

Ymchwil i iechyd lles pobl ifanc yn cymryd lle canolog yn Symposiwm Rhoi Tystiolaeth ar Waith

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar bobl ifanc ledled Cymru, gan effeithio ar eu haddysg, eu hiechyd a’u lles. Ymchwil a oedd ganddi’r nod o wella bywydau pobl ifanc oedd canolbwynt Symposiwm Rhoi Tystiolaeth ar Waith Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC), y digwyddiad cyntaf o’i fath ers i’r Ganolfan agor ym mis Mawrth 2021. 

Dechreuodd y digwyddiad gyda chyflwyniad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, yn diolch i’r gymuned ymchwil yng Nghymru am helpu i sicrhau bod ymchwil yn cael ei chydnabod a’i gwerthfawrogi fel rhan sylfaenol o iechyd a gofal cymdeithasol ac wrth ymdrin â phandemig COVID-19.

Dywedodd y Gweinidog: "Yn ystod y 19 mis diwethaf mae’r dirwedd ymchwil wedi’i thrawsnewid i ddiwallu’r anghenion brys sydd wedi’u creu gan y pandemig, ac nid yw ymateb y gymuned ymchwil yng Nghymru wedi bod yn ddim llai nag anhygoel. Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn enghraifft gadarn o hynny."

Gwnaeth siaradwyr ysbrydoledig a phanel arbenigol gamu i’r llwyfan rhithwir i drafod pum adolygiad o dystiolaeth allweddol sydd â’r nod o newid polisi ac arfer ar gyfer plant yng Nghymru.

Iechyd a lles plant  

Cafodd gwaith hanfodol ei gyflwyno gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a oedd yn gwerthuso effaith cyfyngiadau COVID-19 ar blant 3 i 13 oed yn y digwyddiad gan Helen Morgan o’r Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu.

Gwnaeth yr adolygiad o dystiolaeth, a fydd yn llywio ymchwil yn y dyfodol, ddarganfod bod yr amhariadau ar ddysgu a oedd wedi’u hachosi gan y pandemig wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles plant, maeth, iechyd corfforol a dysgu. Mae angen ymchwil o hyd ar ffyrdd o leihau’r effeithiau hyn.

Cefnogi dysgu a lles pobl ifanc

Mae pandemig COVID-19 wedi amharu’n sylweddol ar addysg pobl ifanc 16 i 19 oed sydd ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau wrth iddynt bontio i astudio pellach neu gyflogaeth.

Gan ganolbwyntio ar bobl ifanc sydd wedi wynebu bylchau sylweddol yn eu haddysg oherwydd y pandemig, dywedodd Deborah Edwards wrth y cynrychiolwyr am waith Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a Chanolfan Gofal yn Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru, gan adolygu tystiolaeth ymchwil ynghylch strategaethau i gefnogi dysgu a lles, yn enwedig iechyd meddwl, ar gyfer y grŵp hwn.

Dulliau addysg amgen i fyfyrwyr  

Yn y Symposiwm, dangosodd Liz Gillen o Ganolfan Gofal yn Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru i’r cynrychiolwyr sut y newidiodd addysg gofal iechyd i fyfyrwyr meddygol, nyrsio, deintyddol a gofal iechyd cysylltiedig yn sylweddol yn ystod y pandemig. Trafododd adroddiad Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a oedd yn ymchwilio i effeithiolrwydd y dulliau addysg eraill a gafodd eu defnyddio, fel dysgu o bell.

Atal heintiau mewn lleoliadau addysg a gofal plant

Mae’r rhan yr oedd plant a lleoliadau addysgol yn ei chwarae yn lledaenu COVID-19 wedi bod yn bryder cyson drwy gydol y pandemig, ac o ganlyniad cyflwynwyd llawer o fesurau diogelwch ledled y byd.

Nod yr adolygiad hwn, a gafodd ei gyflwyno gan Chukwudi Okolie o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y Symposiwm, oedd nodi ffyrdd effeithiol o atal y lledaenu. Llywiodd canlyniadau  o’r adroddiad hwn ‘Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau COVID-19 Lleol‘ Llywodraeth Cymru pan ddychwelodd ysgolion ym mis Medi 2021.

Diheintio rhag COVID-19 mewn lleoliadau addysg

Roedd sawl ffordd o ddinistrio bacteria COVID-19 yn cael eu hystyried i’w defnyddio mewn ysgolion er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo i ddisgyblion ac athrawon. Gwnaeth Judit Csontos, Canolfan Gofal yn Seiliedig ar Dystiolaeth Cymru, cyflwyniad olaf y dydd, ganolbwyntio ar adolygiad tystiolaeth Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru ac asesu pa mor ddiogel ac effeithiol oedd y dulliau hyn.

Mae’r adolygiad hwn wedi llywio Llywodraeth Cymru o ran sut i fuddsoddi adnoddau adfer ar ôl COVID ynghylch awyru mewn ystafelloedd dosbarth.

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, a gadeiriodd y digwyddiad: "Roeddem yn falch iawn y bu dros 100 o bobl yn bresennol yn y Symposiwm o bob rhan o’r DU, ac i fod â chynrychiolwyr o’r llywodraeth, y sectorau iechyd, addysg ac aelodau o’r cyhoedd. Mae’r adolygiadau eisoes wedi cael effaith ar ddysgwyr yng Nghymru, ond mae rhagor o waith i’w wneud bob amser. Rydym yn gobeithio helpu i wella bywydau pawb yng Nghymru drwy lywio polisi ac ymarfer yn y dyfodol.

Dywedodd Mari James, Cadeirydd Grŵp PRIME SUPER Cymru, grŵp o aelodau o'r cyhoedd sy'n cefnogi gweithgareddau ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol ac Argyfwng: "Roedd y Symposiwm yn galonogol iawn, nid yn unig yn dangos sut mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn cynhyrchu tystiolaeth bwysig yn gyflym o agweddau allweddol ar y pandemig coronafeirws fel y mae'n berthnasol i Gymru,  ond hefyd wrth ddod ag academyddion a Llywodraeth Cymru at ei gilydd i lunio polisi ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n braf clywed hefyd bod profiad cleifion a chyhoeddus wrth wraidd y Ganolfan."

“Rydym yn bwriadu cynnal y digwyddiadau hyn bob dau i dri mis, i rannu gwaith Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru gyda phobl Cymru. Mae’r pynciau nesaf yn debygol o fod yn ymwneud ag effeithiau ac ymatebion gwasanaethau’r GIG, a hefyd anghydraddoldebau sy’n effeithio ar wahanol grwpiau yn y boblogaeth."

Gwyliwch y cyflwyniadau

 

Effaith cyfyngiadau addysgol a chyfyngiadau eraill yn ystod y pandemig COVID-19 ar blant 3-13 oed - Helen Morgan, Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu

Cefnogi dysgu a llesiant ymhlith dysgwyr 16-19 oed sydd wedi cael cryn amhariad ar eu haddysg o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 - Deborah Edwards, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth

Strategaethau cyflenwi addysg amgen ar gyfer addysg feddygol, ddeintyddol, nyrsio a fferylliaeth is-raddedig ac ôl-raddedig yn ystod y pandemig COVID-19 - Liz Gillen, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth

Mesurau atal a rheoli haint a roddir ar waith mewn lleoliadau addysg a gofal plant ar gyfer plant - Chukwudi Okolie, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dulliau diheintio COVID-19 (gan gynnwys peiriannau osôn) mewn lleoliadau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc - Judit Csontos, Canolfan Cymru ar gyfer Gofal Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth