Cynadleddwyr cynhadledd

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio rhaglen cynhadledd 2024

23 Awst

Gydag ychydig dros fis i fynd tan nawfed gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 10 Hydref, rydym yn llawn cyffro i gyflwyno rhaglen gynhwysfawr gan gynnwys siaradwyr arbenigol o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a mwy.

Wrth gyhoeddi'r rhaglen, tynnodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sylw at bwysigrwydd ymchwil a sut mae'n hanfodol ar gyfer ysgogi newid ac ymdrin â'r heriau sydd o brys mwyaf yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r gynhadledd eleni yn cynnwys pwyslais penodol ar iechyd menywod fel un o ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru ynghyd â sgyrsiau eraill ar ffurf TED gan ein siaradwyr.

Ymhlith y siaradwyr sesiwn lawn sydd wedi’u cadarnhau:

  • Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru
  • Yr Athro Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dros dro) / Y Farwnes Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
  • Dr David Price, Meddyg Ymgynghorol Anrhydeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bydd pedair sesiwn ar yr un pryd yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr yn trafod pynciau gan gynnwys:

  • Gwella Iechyd Menywod: hybu cydraddoldeb rhyw a rhywedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Sut y gall ymchwil helpu i ymdrin â'r heriau mawr ym maes gofal cymdeithasol i oedolion
  • Effaith newid hinsawdd ar iechyd a gofal cymdeithasol - beth yw'r goblygiadau i ymchwilwyr a chyllidwyr ymchwil?
  • Partneriaethau: A oes angen mwy o gydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch, y GIG a llywodraeth leol i ysgogi buddsoddi mewn ymchwil a gwella gofal cleifion?

Ychwanegodd yr Athro Walshe: "Rwy'n falch o amlygu rhagoriaeth a chyflawniadau ymchwil ledled Cymru yn y gynhadledd hon, gyda phwyslais arbennig ar yr unigolion a'r timau ysbrydoledig y mae eu hymdrechion dygn yn arloesi datblygiadau newydd ac yn cael effaith sylweddol ar bobl a chymunedau ledled Cymru."

Cofrestrwch i ymuno â'r rhestr aros i fynychu'r gynhadledd.

Cyflwynwch eich ceisiadau ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024 erbyn 17:00 ar 2 Medi 2024 i ddathlu eich llwyddiant a'ch rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.