Ymchwilwyr Cymru yn adrodd am arwyddion cynnar o gadw golwg o fôn-gelloedd a ddefnyddir i drin glawcoma
5 Mehefin
Mae ymchwilwyr a ariennir gan Fight for Sight, mewn partneriaeth â Glaucoma UK ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi bod yn cynnal ymchwil i'r defnydd o bôn-gelloedd i atal pobl rhag colli eu golwg yn sgil glawcoma.
Glawcoma yw’r achos mwyaf ond un o ddallineb yn y byd ac mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Glawcoma (28 Mehefin – 2 Gorffennaf) yn tynnu sylw at yr heriau i'r 500,000 o bobl ledled y DU sydd â'r cyflwr.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd eisoes wedi dangos yn y labordy y gellir cadw golwg drwy ymgorffori bôn-gelloedd mêr esgyrn sy'n cynhyrchu pecynnau o'r enw 'ecsosomau', sy'n cario proteinau a gwybodaeth enetig rhwng celloedd.
Mae'r astudiaeth barhaus hon yn ceisio gwahanu'r pecynnau ecsosomau hyn i efelychu’r un manteision o'r bôn-gelloedd heb fod angen trawsblaniad celloedd, ac yn ogystal â bod yn fwy diogel, mae hyn hefyd yn fwy effeithiol oherwydd gellir defnyddio dosau uwch. Mae gwaith yn parhau i gymharu effeithiolrwydd gwahanol bôn-gelloedd i benderfynu pa rai y dylid canolbwyntio arnyn nhw i'w datblygu a'u defnyddio yn ysbytai'r DU.
Ers dechrau'r astudiaeth ym mis Mawrth 2021, cafwyd datblygiadau gan gynnwys profi bôn-gelloedd a gasglwyd o feinweoedd cysylltiol eraill yn y geg ac o dan y croen, a pharatoi i ddechrau profion clinigol pan fydd yr ymchwilwyr yn chwistrellu microbelenni i mewn i fodel glawcoma, ac yna'n ei drin gyda'r ecsosomau y maen nhw wedi bod yn eu defnyddio yn y labordy.
Dr Ben Mead o'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arwain yr ymchwil hon. Dywedodd: “Hyd yn oed gyda rhywfaint o oedi i'r astudiaeth hon oherwydd y pandemig, mae arwyddion cynnar yr astudiaeth hon yn gadarnhaol dros ben.
“Mae ein data rhagarweiniol yn awgrymu bod ein ecsosomau prawf yn fwy effeithiol na'r ecsosomau mêr esgyrn y gwnaethom ymchwilio iddyn nhw’n wreiddiol.
“Cyn y gellir ystyried yr ecsosomau hyn fel strategaeth driniaeth hyfyw, mae'n bwysig gwybod yn gyntaf a ellir gwella'r driniaeth drwy eu hynysu o wahanol bôn-gelloedd. Mae’n ymddangos bod hyn yn wir o’r hyn yr ydym wedi ei ddangos, a bod triniaeth glawcoma sydd eisoes yn bwerus yn cael ei gwella ymhellach trwy ddewis ffynhonnell gywir bôn-gelloedd.
“Bydd y misoedd nesaf hyn o ymchwil yn dysgu llawer i ni ac rydym yn edrych ymlaen at ymchwilio ymhellach i newid y driniaeth i'r rhai sydd â glawcoma a chadw eu golwg yn y pen draw.”
“'Rydym yn hynod ddiolchgar am y bartneriaeth rhyngom ni, Glaucoma UK ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae croeso mawr i’r canlyniadau cynnar hyn. O ystyried nifer y bobl y mae glawcoma yn effeithio arnyn nhw yma yn y DU a ledled y byd, mae mor hanfodol ein bod yn buddsoddi mewn ymchwil i gael triniaethau i arbed golwg.” Ikram Dahman, Prif Weithredwr dros dro, Fight for Sight.
Dywedodd Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Michael Bowdery: “Mae'r canlyniadau rhagarweiniol hyn yn galonogol iawn ac mae’n enghraifft arall o'r angen am ymchwil barhaus i wella bywydau.
“Mae buddsoddiad gan yr holl bartneriaid wedi galluogi'r amser a'r adnoddau i ymchwilio i driniaethau newydd sbon ar gyfer Glawcoma yn ogystal â galluogi'r ymchwilwyr i gydweithio â gwyddonwyr yn yr Unol Daleithiau.
“Rydym ni mor falch ein bod yn gallu cyfrannu at ymchwil o'r fath sy'n newid bywydau a fydd yn fuddiol, nid yn unig i'r rhai sydd â'r cyflwr ond i'w rhwydwaith cymorth hefyd, nawr ac yn y dyfodol.”