Dr Sophie Hallett

Sut mae ymchwilwyr o Gymru yn helpu i lunio polisi domestig a byd-eang i gadw pobl ifanc yn ddiogel rhag camfanteisio rhywiol

22 Medi

Mae ymchwilwyr o Gymru a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ailddiffinio sut mae gweithwyr gofal proffesiynol ac ymarferwyr yn nodi ac yn asesu pobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol, gan helpu i lunio polisi byd-eang gyda'r nod o gadw plant yn ddiogel.

Defnyddiodd Dr Sophie Hallett, o Brifysgol Caerdydd, a'i thîm eu canfyddiadau ymchwil i lywio'r gwaith o ddatblygu canllawiau statudol newydd yng Nghymru i ailddiffinio dealltwriaeth o beth yw camfanteisio rhywiol, a symud i ffwrdd o fodelau asesu risg hŷn, mwy hen ffasiwn.

Arweiniodd Dr Hallett, a dderbyniodd Grant Gofal Cymdeithasol y Cynllun Cyllid Ymchwil, brosiect cydweithredol gydag awdurdod lleol yng Nghymru, gan ddefnyddio set ddata unigryw i edrych ar ganlyniadau pobl ifanc a oedd wedi dioddef camfanteisio rhywiol, yn ogystal â chyfweld â gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, pobl ifanc, a threulio tri mis mewn cartref preswyl gyda phobl ifanc mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol.

Daeth y gwaith hwnnw'n sail i ddatblygiad canllawiau newydd Llywodraeth Cymru, a fabwysiadwyd wedyn gan lunwyr polisi o mor bell ag Awstralia, a chreu adnoddau i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â diogelu plant.

Dywedodd Dr Hallett fod yr ysgogiad y tu ôl i'w hymchwil yn ymwneud â gwrando ar bobl ifanc a'u deall er mwyn eu cefnogi'n well.

Dywedodd: "Yn ein hymchwil aethom yn ôl at ffeiliau achos pobl ifanc, a aseswyd yn wreiddiol dros ddeng mlynedd yn ôl fel rhan o ymarfer i greu fframwaith asesu risg camfanteisio rhywiol Cymru gyfan."

“Yn y bôn, yr hyn yr oedd yn ei olygu oedd ein bod yn gwybod sut yr aseswyd yr unigolion hynny ddeng mlynedd cyn i ni ddechrau’r prosiect, felly roeddem yn gallu mynd yn ôl i'w ffeiliau achos ac edrych ar beth oedd eu sgôr asesu wreiddiol, pa fath o bethau oedd wedi digwydd iddyn nhw dros eu bywydau, a lle roedden nhw nawr yn y system.

“Roeddem yn gallu gweld pa ymyriadau a wnaed, a oedd unrhyw gamfanteisio rhywiol wedi digwydd, ac a oedd y risgiau a nodwyd yn ôl bryd hynny heb eu gwireddu."

Fel rhan o'i gwaith treuliodd Dr Hallett a'i thîm sawl mis yn cyfweld â gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol a phobl ifanc i ehangu’r ddealltwriaeth o risg mewn perthynas â chamfanteisio rhywiol. Mae hyn wedi arwain at ddull gwahanol yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar restr o ddangosyddion, ac asesiad anghenion gofal cyfannol a chymorth llawer ehangach.

Ymhlith yr adnoddau a grëwyd gan Dr Hallett yn dilyn hynny roedd cardiau gyda negeseuon ar gyfer ymarferwyr iechyd plant a gweithwyr proffesiynol eraill i'w hannog i ailfeddwl am eu dull o ymdrin â risg a ffyrdd o ymateb i bobl ifanc, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar reoli ymddygiad pobl ifanc.

Ychwanegodd: "Roedd yn ymwneud â chreu negeseuon i bobl i wneud iddynt ailfeddwl. Mae ein hymchwil yn dangos, er bod rheoli risg yn rhan hanfodol o ddiogelu, bod sylw i anghenion gofal a chymorth plant a phobl ifanc heb eu diwallu a'u lles ehangach hefyd yn rhan hanfodol o amddiffyn plant rhag niwed, lliniaru bregusrwydd a chynnal diogelwch tymor hwy iddynt."

O ganlyniad i ganfyddiadau'r tîm, gwahoddwyd Dr Hallett i deithio i Awstralia a gweithio gyda Llywodraeth Awstralia i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu model asesu ymweliadau cartref, yn seiliedig ar chwarae a'r dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae hyn o ganlyniad i'w hymchwil ar wrando ar blant, nodi anghenion heb eu diwallu yn gynnar a mynd i'r afael â llesiant i feithrin gwytnwch a diogelwch tymor hwy ac atal camfanteisio rhywiol a mathau eraill o niwed.

Ychwanegodd:

Dyna'r peth pwysicaf i mi - mae sicrhau llais y plentyn a'i anghenion a'i lesiant yn ganolog i feddwl am y ffordd orau i'w cefnogi a sicrhau diogelwch hirdymor, yn ogystal â hyrwyddo ei les."

Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i gael yr wybodaeth am ein cynlluniau ariannu yn uniongyrchol.

Cardiau Negeseuon ar gyfer Ymarferwyr Iechyd Plant