Nana Snyper gwyddonydd biofeddygol yn gweithio gyda microsgop

Sut mae ymchwilwyr o Gymru yn mynd i'r afael â'r bygythiad a achosir gan ymwrthedd i wrthfiotigau

17 Mai

Mae ymchwilydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi galw ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau yn "broblem fawr" mewn cyfweliad dethol gyda'r BBC.

Disgrifiodd yr Athro Angharad Davies, Arweinydd Arbenigol ar gyfer Heintiau, ymwrthedd gwrthficrobaidd fel mater iechyd cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol.

A dywedodd Dr Leigh Sanyaolu, Cymrawd Doethurol Iechyd a Gofal Cymru / Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, wrth BBC Radio Wales bod ymwrthedd i wrthfiotigau yn cael "effaith sylweddol" ar fywydau pobl, nawr ac yn y dyfodol.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei gynllun gweithredu ei hun ar sut i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Meddai'r Athro Davies: "Erbyn 2050 mae gwyddonwyr yn credu y bydd mwy o bobl yn marw o heintiau ymwrthedd gwrthficrobaidd nag a fydd yn marw o ganser, felly mae'n broblem fawr mewn gwirionedd.

"Mae'n fater gweithredol byw go iawn, a dyna pam rydyn ni'n symud i ffwrdd o'r term pandemig tawel oherwydd mae hynny'n gwneud iddo swnio fel pe na bai'n cael effaith, ond mae wir yn cael effaith."

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn digwydd pan fydd germau sy'n achosi salwch yn datblygu ffyrdd o wrthsefyll y cyffuriau a ddefnyddir yn draddodiadol i'w trin, gan greu "archfygiau".

Mae ymwrthedd yn broses naturiol, ond mae'n cael ei gyflymu gan ddefnydd meddyginiaethau megis gwrthfiotigau. 

Gall ymchwil chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd, gyda threial i achosion dolur gwddf yn arwain at gyflwyno profion swab gwddf yn fferyllfeydd Cymru ar ôl darganfod bod y rhan fwyaf o achosion yn deillio o heintiau feirysol nid bacteria.

Dywedodd yr Athro Davies fod y treial wedi arwain at "ostyngiad sylweddol mewn presgripsiynau gwrthficrobaidd yn cael eu rhoi" ond bod angen mwy o ymchwil.

Ychwanegodd: "Ni allwn ymdrin â hyn mewn un sector yn unig, ond mae'r achosion yn gymhleth.  Mae nid yn unig yn bodoli mewn meddygaeth, ond hefyd planhigion ac anifeiliaid, y mae pob un ohonynt yn cyfrannu."

Gwyliwch gyfweliad yr Athro Davies ar BBC iPlayer a gwrandewch ar gyfweliad Dr Sanyaolu ar BBC Radio Wales.