Placeholder Image

Angharad Davies

Arweinydd Arbenigol ar Heintiau

Mae Dr Angharad Davies yn Athro Clinigol Cyswllt a Microbiolegydd Ymgynghorol er Anrhydedd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Enillodd radd mewn meddygaeth o Brifysgol Caergrawnt a chwblhaodd ei hyfforddiant arbenigol mewn microbioleg meddygol yn Ysbyty Rydd Frenhinol Llundain, cyn dechrau ar Gymrodoriaeth Hyfforddiant Ymchwil Glinigol â’r Cyngor Ymchwil Feddygol gan gynnal gwaith ymchwil i dwbercwlosis. Yn Abertawe, mae’n Ficrobiolegydd Ymgynghorol yn yr Uned Gyfeiriol genedlaethol ar Cryptosporidiwm, lle cynhelir llawer o’i gwaith ymchwil.

Angharad yw’r Cyd-arweinydd Israddedigion ac Addysg Sylfaenol yng Ngholeg Brenhinol y Patholegwyr, mae’n Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn Aelod o Gyngor Academi’r Addysgwyr Meddygol. Mae’n arwain nifer o fodiwlau israddedig ac ôl-radd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, a hi yw sylfaenydd ac arweinydd AWARE, sef rhwydwaith Addysgwyr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Cymru Gyfan. Mae Angharad hefyd yn aelod o Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU 2021, y Panel Cynghori ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth a Phwyllgor Cymdeithas Feddygol Prydain ar Fenywod ym maes Meddygaeth Academaidd.


Yn y newyddion:

Brwydro’r "superbugs" - defnyddio ymchwil i achub dynoliaeth (Mehefin 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Ymchwilwyr yng Nghymru’n cyfrannu at astudiaeth sy’n darganfod y gallai cyffur ar gyfer arthritis helpu i achub 1 ym mhob 25 o gleifion sy’n ddifrifol wael â COVID-19 (Chwefror 2021)

Ymchwilwyr o gymru yn cyfrannu at astudiaeth COVID-19 sydd wedi dod o hyd i driniaeth gwrthgyrff sy'n achub bywydau (Gorffennaf 2021)

Cysylltwch â Angharad

E-bost

Twitter