two_men_in_suits_in_two_headshots

Ymchwilwyr o Gymru yn cael eu hanrhydeddu ar restr Anrhydedd Pen-blwydd y Brenin

20 Mehefin

Mae dau ymchwilydd o Gymru wedi cael eu hanrhydeddu am eu cyfraniadau arloesol i'w meysydd yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni. 

Rhoddwyd OBE i Iain Whitaker, Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Llawfeddyg Plastig Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty Treforys, a David Ford, cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL, am wasanaethau i lawfeddygaeth blastig a gwyddor gymdeithasol yn y drefn honno.

Yr Athro Whitaker, cyn Arweinydd Arbenigeddau Llawfeddygol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw cyfarwyddwr sefydlu Canolfan Ymchwil ReconRegen, lle mae ei dîm yn archwilio meysydd datblygedig fel peirianneg meinwe a'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial.

Yn 2022, lansiwyd rhaglen ymchwil gwerth £2.5 miliwn yn swyddogol gan Dduges Caeredin yn y ganolfan, a ariennir gan y Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Ar hyn o bryd mae'r Athro Whitaker yn arwain y rhaglen ymchwil 3D Bioface gwerth £2.07 miliwn, sy'n archwilio bio-argraffu cartilag dynol ar gyfer ailadeiladu wynebau. 

Dywedodd yr Athro Whitaker: "Rwy'n ddiolchgar i dderbyn cydnabyddiaeth am fwy nag 20 mlynedd o waith o fewn arbenigedd llawfeddygaeth blastig, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'm henwebiad a chydnabod bod hyn hefyd yn adlewyrchiad o gyflawniadau a chyfraniadau'r sefydliadau, cymunedau ac unigolion yr wyf yn gweithio gyda nhw."

Yr Athro David Ford yw cyd-sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL, adnodd Cysylltu Gwybodaeth Ddiogel Dienw sy'n arwain y byd, ac sydd  wedi'i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a'r Llwyfan E-ymchwil Diogel (SeRP), sy'n cynnwys biliynau o gofnodion sy'n seiliedig ar bersonau.  

Yn 2024 cyfraniad Banc Data SAIL at harneisio data cyhoeddus i wella iechyd a lles y boblogaeth  arweiniodd at ddyfarniad mawreddog Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i Brifysgol Abertawe.

Yr Athro Ford, sy'n athro gwybodeg a chyfarwyddwr  Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, hefyd wedi'i gynnwys ar restr DataIQ o'r 100 o bobl fwyaf dylanwadol mewn data a dadansoddeg ar gyfer 2021.

Dywedodd yr Athro Ford:  "Rwyf wedi fy synnu ac yn falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hon.  Doeddwn i erioed am eiliad yn meddwl y byddwn i yn y ras am un! 

"Wrth gwrs, er fy mod wrth fy modd i'w dderbyn, rwy'n ymwybodol iawn bod unrhyw lwyddiannau sy'n gysylltiedig â mi dros y blynyddoedd ond yn bosibl trwy waith caled ac ymroddiad llawer o gydweithwyr clyfar iawn. Gyda nhw rwy'n rhannu'r wobr hon." 

Dywedodd Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth Llywodraeth Cymru:  "Mae'n wych gweld ymchwilwyr o Gymru yn cael eu cydnabod ar y lefel hon.  Mae eu gwaith yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil wrth wella bywydau ac yn arddangos y cryfder, yr ymroddiad a'r arloesedd a geir ar draws cymuned ymchwil Cymru."