Yr Athro David Ford

Yr Athro David Ford

Cyd-gyfarwyddwr

Mae David Ford yn Athro Gwybodeg Iechyd ac yn arwain Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae David yn Gyd-gyfarwyddwr y Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw. Mae’r Banc wedi cael clod rhyngwladol ac yn dod â data biliynau o unigolion ynghyd er mwyn ei wneud yn ddienw, ei gysylltu ac yna’i ailddefnyddio’n ddiogel ar gyfer ymchwil, arloesi ac ymholi. Mae hefyd yn arwain ar ddatblygiad strategol Llwyfan Ymchwil Electronig Diogel (SeRP) arloesol ei grŵp sy’n darparu cyfleusterau curadu data cadarn, sy’n cydymffurfio ag ISO27001 a chyfleusterau rhannu ar gyfer ystod eang o grwpiau a sefydliadau ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Mae David hefyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol (ADRC) Cymru, buddsoddiad o £13 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o fenter data mawr. Mae hefyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr safle sylweddol Cymru a Gogledd Iwerddon Ymchwil Data Iechyd y DU, a ddaeth yn sgil Sefydliad Ymchwil Gwybodeg Iechyd Farr.

Mae wedi derbyn grantiau ymchwil a chontractau ymgynghori gwerth dros £55 miliwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.


Yn y newyddion:

Data'n gwneud gwahaniaeth: y banc data sy'n arwain y byd yn sail i ymchwil sy'n newid bywydau (Mai 2022)

Cydnabod Cyd-Gyfarwyddwr SAIL yng ngwobrau Diwydiant Dylanwad Data. (Chwefror 2021)

Platfform cronfa ddata a thechnoleg goruwch Cymru’n chwarae rhan fawr mewn cydweithrediad ymchwil COVID-19 rhyngwladol newydd (Mehefin 2020)

 

Sefydliad

Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw

Contact David

E-bost