Dyfarniad Datblygu Treialon

Pwrpas

Mae’r dyfarniad hwn yn hwyluso ymchwilwyr sy’n gweithio gydag unrhyw Uned Treialon Clinigol (CTU) sydd wedi’i chofrestru gan UKCRC i arwain cais am gyllid gan Gymru (h.y. bydd ymchwilwyr yn datblygu tuag at statws Prif Ymchwilydd neu yn achos unigolion llai profiadol, byddant yn arwain cais gyda chefnogaeth Cyd-ymgeisydd ar lefel uwch). Bydd y cydrannau allweddol a ragwelir yn y rhaglen gymorth yn cynnwys mentora unigol ffurfiol, cyfleoedd i fynychu cyfarfodydd busnes newydd CTU a chyfarfodydd grŵp CTU eraill, cyrsiau hyfforddiant ymchwil byr perthnasol, a mynediad at gymorth mentora a chymheiriaid arbenigol CTU.

Ar gyfer pwy

Mae’r Cynllun Datblygu Treialon yn agored i ymchwilwyr a gyflogir gan Sefydliadau Addysg Uwch neu staff a gyflogir yn y GIG neu sefydliadau Gofal Cymdeithasol. Bydd angen i ymgeiswyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) gyfiawnhau’n glir yr angen am gostau cyflog o ystyried eu contract cyflogaeth parhaol yn y sector SAU. 

Cyllid ar gael

Costau cyflog am hyd at 0.4 diwrnod Cyfwerth ag Amser Cyflawn (WTE) yr wythnos am flwyddyn.

Pryd

 Mae hwn yn gynllun blynyddol gyda galwadau'n agor ym mis Medi bob blwyddyn. Mae'r alwad nesaf wedi'i threfnu ar gyfer mis Medi 2023. 

Opens: 09/2024

Gwybodaeth bellach 

E-bost: Research-Faculty@wales.nhs.uk